YouVersion logo
Ikona pretraživanja

Salmau 14

14
Salm XIV.
I’r Pencerdd: eiddo Dafydd.
1DYWED yr ynfyd#14:1 ynfyd.halog, aflan, drygiog, un budr ei foes, yn ynfyd mewn drygioni. Balchder, neu anfoes, yw achos didduwiaeth bob amser. — Yn ei galon — ynddo ei hun. Llefara’r galon yn fynych bethau ag y mae cywilydd gan y tafod eu traethu. yn ei galon#14:1 yn ei galonynddo ei hun. Llefara’r galon yn fynych bethau ag y mae cywilydd gan y tafod eu traethu., ‘Nid “oes” Duw:’
Ymlygrasant, difwynasant#14:1 difwynasant, &c. neu, ffiaidd-wnaethant “eu” gwaith. Halogent bob peth a wnaethent. Yr hyn oedd dda ynddo ei hun a wnaed ganddynt mewn modd halogedig. “bob” gweithred;
Nid “oes” neb a wna ddaioni.
2 Iehova o’r nefoedd a edrychodd ar feibion dynion,
I weled a oes neb deallgar#14:2 deallgaryn meddu amgyffred cywir am bethau, ac yn amlygu hyn trwy geisio Duw., yn ceisio Duw.
3Gwrthgiliodd#14:3 Gwrthgilioddsef oddiwrth Dduw: apostisized. pawb, ynghyd yr ymhalogasant;
Nid “oes” neb a wna ddaioni, nac oes un.
4Oni#14:4 Oni, &c. Anhawdd yw dirnad cywir ystyr yr adnod hon. Mae amlwg ystyr i’r llinell gyntaf; felly y’nghyfieithiad y Llyfr Gweddi Gyffredin yn Saesneg, “Have they no knowledge, that they are all such workers of mischief.” Ond ystyr yr ail llinell, a gyfieithir yma yn llythyrenol, nid yw mor eglur. Ef allai mai meddwl y Salmydd yw, mai er eu bod yn bwyta neu’n difa pobl Dduw, eu bod etto yn cael digon o gynhaliaeth, yn bwyta bara, yn cael digonedd o bethau’r byd. Cyssona hyn yn well a’r llinell a ganlyn, na phe cyfieithid fel hyn: Bwytawyr fy mhobl, bwytânt “hwynt fel” bara. Gellir rhoi golwg arall ar yr ymadrodd: cymmaint oedd eu tuedd at ddrwg. fel ag yr oedd bwyta neu ddifa pobl Dduw yn boddloni eu blys gymmaint ag oedd bwyta bara, neu unrhyw ddanteithion; gall fod bara yn cynnwys pob peth a fwyteid. wyddant “eu bod” oll yn weithredwyr trawsder?
Bwytawyr fy mhobl, bwytant fara;
Ar Iehova ni alwasant.
5Yno dychrynasant gan ddychryn, lle nad oedd#14:5 lle nad oedd, &c. Nid yw’r geiriau hyn yma yn yr Hebraeg, ond y maent yn Salm 53, ac y maent yma yn y LXX, ac mewn un o gopïau Kennicott. Nid yw y llinell yn ymddangos yn gyflawn hebddynt. Goddiweddodd dychryn hwynt, pan nad oeddent yn meddwl. Yr oeddent yn difrodi pobl Dduw yn ddiddychryn; ond cawsant weled fod Duw yn eu plith, a dychryn mawr a ddaeth arnynt. dychryn “arnynt;”
Am “fod” Duw y’mhlith y genedl gyfiawn.
6Cyngor#14:6 Cyngor— sef o ymddiried yn Nuw. Hyn yw cyngor y duwiol pan mewn cyfyngder. Dirmyga yr annuwiol y fath gyngor. y gorthrymedig a waradwyddwch,
Am “fod” Iehova yn obaith iddo. —
7Pwy#14:7 Pwy, &c. Yr oedd anobaith a gobaith ya gwrthwynebu y naill y llall. Pan oedd gobaith yn dechreu hwylio, denai tòn o anobaith i’w rwystro. Elai’r dòn heibio, a gobaith a hwyliai yn y blaen. Pwy, &c. meddai anobaith. Yna gobaith a ddyweda, Pan adfero, &c. Dyma fel y mae etto yn aml gyda’r gwir gredadyn, pan fyddo mewn cyfyngder mawr. Cymmered gysur, gobaith a garia’r dydd. a rydd o Sion waredigaeth i Israel? —
Pan adfero Iehova gaethglud ei bobl,
Gorfoledda Jacob, llawenycha Israel.
NODAU
Mae’r Salm hon a’r 33 yr un bron air y’ngair, oddieithr y bummed a’r chweched adnod. Mae’r ddwy yn un yn y 53, ac amrywiant gryn lawer. — Peth arall yw, rhoddir tair adnod i mewn ar ol y drydedd, y’nghyfieithiad y Llyfr Gweddi Gyffredin, ag nad ydynt yn yr Hebraeg. Cymmerwyd hwynt o’r LXX: a dygwyd hwynt i mewn yno, mae’n debyg, o’r drydedd bennod o’r Rhufeiniaid, gan ryw gopiydd o’r LXX mewn rhyw oes neu gilydd. Nid ydynt ym mhob copi o’r LXX.

Trenutno odabrano:

Salmau 14: TEGID

Istaknuto

Podijeli

Kopiraj

None

Želiš li svoje istaknute stihove spremiti na sve svoje uređaje? Prijavi se ili registriraj