Ioan 2
2
A.D. 30. —
1 Crist yn troi y dwfr yn win: 12 yn myned i waered i Capernaum a Jerwsalem: 14 ac yno yn bwrw y prynwyr a’r gwerthwyr allan o’r deml: 19 yn rhagfynegi ei farwolaeth a’i atgyfodiad. 23 Llawer yn credu ynddo oherwydd ei wyrthiau; ond er hynny nid ymddiriedai efe iddynt amdano ei hun.
1A’r trydydd dydd yr oedd priodas #Edrych Jos 19:28yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. 2A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. 3A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin. 4Iesu a ddywedodd wrthi, #2:4 Beth yw i mi ac i ti, wraig?#Pen 19:26Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? #Pen 7:6ni ddaeth fy awr i eto. 5Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. 6Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, #Marc 7:3yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri. 7Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. 8Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. 9A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, 10Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. 11Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.
12Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, #Mat 12:46a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
13A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; 14#Mat 21:12; Marc 11:15; Luc 19:45Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. 15Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: 16Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. 17A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, #Salm 69:9Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.
18Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, #Mat 12:38; Ioan 6:30Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? 19Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, #Mat 26:61; 27:40; Marc 14:58; 15:29Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. 20Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? 21Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. 22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, #Luc 24:8ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. 24Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll; 25Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd #1 Sam 16:7; 1 Cron 28:9; Ioan 6:64; Act 1:24; Dat 2:23yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.
اکنون انتخاب شده:
Ioan 2: BWM1955C
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society