Ioan 1
1
A.D. 26. —
1 Duwdod, dyndod, a swydd Iesu Grist. 15 Tystiolaeth Ioan. 39 Galwad Andreas, Pedr, Philip, a Nathanael.
1Yn y dechreuad #Diar 8:22 &c; Col 1:17; 1 Ioan 1:1; Dat 19:13yr oedd y Gair, a’r Gair oedd #Diar 8:30; Ioan 17:5; 1 Ioan 1:2gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2#Gen 1:1Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. 3#Col 1:16; Heb 1:2; Dat 4:11Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. 4#Pen 5:26; 1 Ioan 5:11Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r #Pen 8:12; 9:5; 12:46bywyd oedd oleuni dynion. 5A’r #Pen 3:19goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei #1:5 gynnwys.amgyffred.
6 #
Mal 3:1
Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. 7Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. 8Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9#Ad. 4Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd. 10Yn y byd yr oedd efe, #Heb 1:2; 11:3a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. 11At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. 12Ond #Esa 56:5; Rhuf 8:15; Gal 3:26; 2 Pedr 1:4; 1 Ioan 3:1cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt #1:12 Neu, fraint.allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13#Pen 3:5; Iago 1:18; 1 Pedr 1:23Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. 14#Mat 1:16; Luc 1:31; 2:7A’r Gair #Rhuf 1:3; Gal 4:4a wnaethpwyd #1 Tim 3:16; Heb 2:14yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac #Mat 17:2; 2 Pedr 1:17ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) #Col 1:19; 2:3, 9yn llawn gras a gwirionedd.
15Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, #Pen 1:27, 30; Ioan 3:31Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 16Ac o’i #Col 1:19; 2:9, 10gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. 17Canys #Exod 20:1 &cy gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18#Mat 11:27; Luc 10:22; 1 Tim 6:16; 1 Ioan 4:12Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
19A hon yw #Pen 5:33tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti? 20Ac #Pen 3:28; Act 13:25efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw’r Crist. 21A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. #1:21 Ai Proffwyd.Ai’r #Deut 18:15, 18; Ioan 6:14Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage. 22Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun? 23#Mat 3:3; Ioan 3:28Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel #Esa 40:3y dywedodd Eseias y proffwyd. 24A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid. 25A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist, nac Eleias, na’r proffwyd? 26Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, #Mat 3:11Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi: 27#Pen 1:15, 30; Act 19:4Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid. 28Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele #Esa 53:7; Act 8:32; 1 Pedr 1:19Oen Duw, yr hwn sydd yn #1:29 dwyn arno.tynnu ymaith bechodau’r byd. 30#Pen 1:15, 27Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 31Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr. 32Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais #Mat 3:16; Marc 1:10; Luc 3:22yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef. 33A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, #Mat 3:11; Act 1:5hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân. 34A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.
35Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion: 36A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, #Pen 1:29Wele Oen Duw. 37A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. 38Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn #1:38 byw?trigo? 39Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr. 40#Mat 4:18Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a’i dilynasent ef. 41Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o’i ddeongl yw, #1:41 Yr Eneiniog.Y Crist. 42Ac efe a’i dug ef at yr Iesu. A’r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: #Mat 16:18ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, #1:42 Neu, Pedr.Carreg.
43Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 44A #Pen 12:21Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr. 45Philip a gafodd #Pen 21:2Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd #Gen 3:15; 49:10; Deut 18:18; Edrych ar Luc 24:27Moses yn y gyfraith, a’r #Esa 4:2; 7:14; 9:6; 53:2; Micha 5:2; Sech 6:12; 9:9; Edrych ar Luc 24:27proffwydi, amdano, Iesu #Mat 2:23; Luc 2:4o Nasareth, mab Joseff. 46A Nathanael a ddywedodd wrtho, #Pen 7:41, 42A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl. 47Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, #Salm 32:2; 73:1; Rhuf 2:28, 29yn yr hwn nid oes dwyll. 48Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di. 49Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel. 50Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn. 51Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #Gen 28:12; Mat 4:11; Luc 2:9, 13; 22:43; 24:4; Act 1:10Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.
اکنون انتخاب شده:
Ioan 1: BWM1955C
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society