Ioan 16

16
A.D. 33. —
1 Crist yn cysuro ei ddisgyblion yn erbyn blinder, trwy addewid o’r Ysbryd Glân, a thrwy ei atgyfodiad a’i esgyniad: 23 yn eu sicrhau y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn gymeradwy gan ei Dad. 33 Tangnefedd yng Nghrist; ac yn y byd gorthrymder.
1Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel #Mat 11:6na rwystrer chwi. 2#Pen 9:22, 34; 12:42Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. 3A’r #Pen 15:21; 1 Cor 2:8pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. 4Eithr #Pen 13:19; 14:29y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r #Edrych Mat 9:15pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. 5Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? 6Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. 7Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, #Pen 14:16, 26; 15:26ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr #Act 2:33; Eff 4:8os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. 8A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: 9O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 10O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 11O farn, oblegid #Pen 12:31; Eff 2:2; Col 2:15tywysog y byd hwn a farnwyd. 12Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 13Ond pan ddêl efe, sef #Pen 14:17Ysbryd y gwirionedd, #Pen 14:26efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. 14Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 15#Pen 17:10Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi. 16#Pen 7:33; 13:33; 14:19Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. 17Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad? 18Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. 19Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch? 20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd. 21#Esa 26:17Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. 22A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, #Pen 14:1; 20:20a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. #Mat 7:7; Ioan 14:13; 15:16Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 24Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; #Pen 15:11fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 25Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad. 26Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: 27Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a #Pen 3:13; 17:8chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. 28#Pen 13:3Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad. 29Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg. 30Yn awr y gwyddom #Pen 21:17y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn #Pen 17:8yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw. 31Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? 32Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, #Mat 26:31; Marc 14:27y gwasgerir chwi #Pen 20:10bob un #16:32 i’w gartref.at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac #Pen 8:29; 14:10nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi. 33Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel #Esa 9:6; Ioan 14:27; Rhuf 5:1; Eff 2:14; Col 1:20y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.

انتخاب شده:

Ioan 16: BWM1955C

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید