Ioan 11

11
A.D. 33. —
1 Crist yn cyfodi Lasarus, yr hwn a gladdwyd ers pedwar diwrnod. 45 Llawer o Iddewon yn credu. 47 Yr archoffeiriaid a’r Phariseaid yn casglu cyngor yn erbyn Crist. 49 Caiaffas yn proffwydo. 54 Iesu yn ymguddio: 55 hwythau ar y Pasg yn ymofyn amdano, ac yn gosod cynllwyn iddo.
1Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref #Luc 10:38, 39Mair a’i chwaer Martha. 2(#Mat 26:7; Marc 14:3; Ioan 12:3A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) 3Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf. 4A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, #Pen 9:3; Ioan 11:40ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. 5A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. 6Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. 7Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn. 8Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, #Pen 10:31yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn? 9Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn: 10Ond #Pen 12:35os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. 11Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus #Mat 9:24yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef. 12Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. 13Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. 14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus. 15Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef. 16Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef. 17Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. 18A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi: 19A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. 20Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. 21Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. 22Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. 23Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn. 24Dywedodd Martha wrtho, #Luc 14:14; Ioan 5:29Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf. 25Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r #Pen 6:35bywyd: #Pen 3:36; 1 Ioan 5:10, &cyr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? 27Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: #Mat 16:16; Ioan 4:42; 6:69yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd. 28Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat. 29Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef. 30(A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.) 31Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno. 32Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. 33Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a #11:33 Gr. ymgynhyrfodd.gynhyrfwyd; 34Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl. 35#Luc 19:41Yr Iesu a wylodd. 36Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef. 37Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, #Pen 9:6yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith? 38Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. 39Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. 40Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti #Ad. 4weled gogoniant Duw? 41Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. 42Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr #Pen 12:30er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. 43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan. 44A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i #Pen 20:7wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith. 45Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef. 46Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47 # Salm 2:2; Mat 26:3; Marc 14:1 Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, #Pen 12:19; Act 4:16Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 48Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. 49A rhyw un ohonynt, #Luc 3:2; Ioan 18:14; Act 4:6Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll, 50Nac yn ystyried, #Pen 18:14mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 51Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl; 52Ac #Esa 49:6; 1 Ioan 2:2nid dros y genedl yn unig, #Eff 2:14, 15, 16eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. 53Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd‐ymgyngorasant fel y lladdent ef. 54Am hynny #Pen 4:1, 3; 7:1ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir #Edrych 2 Cron 13:19Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion.
55A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain. 56#Pen 7:11Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl? 57A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.

انتخاب شده:

Ioan 11: BWM1955C

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید