Obadia 1

1
PENNOD I.
1Gweledigaeth Obadia. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Iehofa am Edom, —
“Hysbysiad a glywsom oddiwrth Iehofa,
A chenad ymysg y cenedloedd a ddanfonodd —
‘Codwch, ïe codwn yn ei herbyn i ryfel:’
2Wele bychan y’th wnaethum ymysg cenedloedd,
Dirmygedig iawn oeddyt;
3Balchder dy galon, twyllodd di,
Yr hon a anneddi yn holltau’r graig.”#1:3 Ymddengys fod y geiriau wedi eu cymeryd o brophwydoliaeth Ieremia, 49:14-15, a rhan o 16, er nad ydynt yn lythyrenol. Yr “hysbysiad” oedd, “Wele bychan,” &c.; a’r hyn a gyhoeddai y “cenad” oedd, “Codwch, ïe codwn,” &c., yn ol y drefn a gawn yn fynych yn y prophwydi. Dechreua “gweledigaeth Obadia” gyda’r geiriau, “Uchel ei eisteddfod,” &c.
Uchel ei eisteddfod, dywedodd yn ei galon,
“Pwy a’m hiselhâ i’r llawr?”
4Pe dyrchefit fel yr eryr,
A phe rhwng y ser y gwnelit dy nyth,
Oddiyno y disgynwn di, medd Iehofa.
5Pe daethai lladron atat,
Pe yspeilwyr y nos,
Pa faint y dyfethasid di?
Oni ladradasent eu digon?#1:5 Felly y dylid cyfieithu y pedair llinell hon: mae cysylltiad rhwng y cyntaf a’r olaf, a rhwng yr ail a’r drydedd, yn ol y rheol a arferir yn aml. Pe canfuasai beirniaid hyn, ni buasent yn amrywio cymaint yn eu cyfieithiadau. “Pa faint,” sef nid yn llwyr, fel y dynoda yr hyn a ganlyn.
Pe deuai grawnwinwyr atat,
Oni weddillent rawnwin?
6Podd y dihatrwyd Esau,
Y chwiliwyd ei guddfeydd!#1:6 Dyma gynllun arall o neillduolrwydd ymadroddi a arferir gan y prophwydi, sef enwi y weithred olaf yn gyntaf: yr oedd “chwilio” o flaen “dihatru,” eto cawn “chwilio” yn olaf. Arferiad cyffredin yw hyn trwy’r holl Ysgrythyr.
7Hyd y terfyn y danfonodd di,
Holl wŷr dy gyfammod;
Twyllodd di, gorfuodd di,
Holl wŷr dy heddwch a’th fara;#1:7 “Gwŷr dy gyfammod” oedd y rhai mewn cynghrair â hwynt; felly “gwŷr dy heddwch,” a gwŷr “dy fara,” oedd y rhai mewn heddwch â hwynt, ac yn cael eu cynnaliaeth oddiwrthynt. Yn lle eu cynnorthwyo, gosodasent megys rhwydau i’w dal, pan yn dianc rhag eu gelynion. Yn ol arfer y prophwydi, dywedir yma am y pethau oeddent i ddygwydd fel pe buasent wedi cymeryd lle. Felly hefyd yn y ddwy adnod a ganlynant. Wedi hyny, arferir yr amser dyfodol: felly yn adnod 10, “gorchuddia,” ac nid gorchuddiodd.
Gosodasant rwyd danat. —
Nid oedd deall ganddo!
8Onid yn y dydd hwnw, medd Iehofa,
Y dyfethais hefyd y doethion o Edom,
A deall o fynydd Esau?#1:8 Yr oedd yr Edomiaid yn tybied eu hunain yn dra doeth a deallus. Gwir yr hen ddywediad, Yr ynfyda Duw y rhai y mae ei fwriad i’w dinistrio.
9Ië, dychrynwyd dy gedyrn di, Teman,#1:9 Teman oedd dref o fewn cyffiniau Edom, nodedig o ran ei chedyrn, a elwid ar ôl Teman, un o wyrion Esau, Gen. 36:11, 15.
Fel y tòrid ymaith bob un
O fynydd Esau trwy laddfa.
10O herwydd gormesu dy frawd Iacob,
Gorchuddia di waradwydd,
A thòrir di ymaith dros byth.
11Yn y dydd y sefaist or tu arall,
Yn y dydd y caethgludodd estroniaid ei lu,
Ac y daeth dyeithriaid i’w byrth,
Ac ar Ierusalem y bwriasant goelbrenau,
Tydi hefyd oeddit fel un o honynt!
12Ond ni ddylesit edrych#1:12 Dyma gynllun arall o neillduolrwydd ymadroddi a arferir gan y prophwydi, sef enwi y weithred olaf yn gyntaf: yr oedd “chwilio” o flaen “dihatru,” eto cawn “chwilio” yn olaf. Arferiad cyffredin yw hyn trwy’r holl Ysgrythyr. ar ddydd dy frawd,
Ar ddydd ei ddyeithriad;
Ac ni ddylesit lawenhâu o herwydd meibion Iowda,
Ar ddydd eu dystryw;
Ac ni ddylesit fawrhâu dy enau,#1:12 Sef geiriau neu ymadrodd a ddeuai o’r genau: mawrhau y genau oedd dywedyd geiriau mawr ymffrostus a chwyddedig; neu, fe allai, yr ystyr yw, ymledu y genau trwy chwerthin mewn gwawd a dirmyg.
Ar ddydd y cyfyngder;
13Ac ni ddylesit ddyfod i borth fy mhobl,
Yn nydd eu haflwydd;
Ac ni ddylesit edrych, yn enwedig tydi,
Ar ei adfyd, yn nydd ei aflwydd;
Ac ni ddylesit gyffwrdd â’i olud
Yn nydd ei aflwydd;
14Ac ni ddylesit sefyll ar y groesffordd,
I dòri ymaith ei fföedigion;
Ac ni ddylesit amgylchu ei weddillion
Yn nydd cyfyngder
15Diau agos ddydd Iehofa
Ar yr holl genedloedd:
Fel y gwnaethost y gwneir i ti;
Dy dâl a ddychwel ar dy ben.
16Canys fel yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd,#1:16 Dywed hyn wrth yr Iddewon, fel y gwelir oddiwrth Ier. 49:12. Yr yfed oedd y farn a ddaethai arnynt. Y cyfeiriad sydd at gwpan digofaint Duw.
Yr yfa yr holl genedloedd yn wastad;
Ië, yfant a llyncant,
A byddant fel pe na buasent.
17Ond ar fynydd Sïon y bydd gwaredigion,
Ac y bydd sancteiddrwydd:#1:17 Halogrwydd a fu yno; am hyny daethai alltudiaeth. Pan ddeuai gwaredigaeth neu adferiad, byddai yno sancteiddrwydd. Arferir gwaredigaeth yn lle gwaredigion.
Ac etifedda tŷ Iacob eu hetifeddiaethau;
18A bydd tŷ Iacob yn dân,
A thŷ Ioseph yn fflam,
A thŷ Esau yn sofl;
A chynneuant yn eu plith, a difäant hwynt,
Fel na byddo gweddill i dŷ Esau;
O herwydd Iehofa a lefarodd hyn.
19Yna etifeddant y dehau,
Ynghyda mynydd Esau,
A gwastadedd y Philistiaid;
Etifeddant hefyd faes Ephraim,
A maes Samaria a Beniamin a Gilead:#1:19 Yr oedd Edom yn y dehau, y Philistiaid yn y gorllewin, Ephraim a Samaria yn y gogledd, a Gilead yn y dwyrain. Yr oedd y dychweledigion o Babylon i berchenogi yr holl leoedd hyn.
20Ië, y gaethglud, a ddechreuodd gyda meibion Israel,#1:20 Adrodda yma yn fwy penodol yr hyn a ddywedodd yn yr adnod flaenorol, gan gyfeirio yn gyntaf, yn ol arfer gyffredin y prophwydi, at y rhan olaf o’r adnod flaenorol, ac yna at y rhan gyntaf ar ddiwedd yr adnod hon.
A etifeddant yr hyn oedd gan y Canaaneaid hyd Sarephath;
A chaethglud Ierusalem, yr hyn sydd yn Sepharad,#1:20 Tebyg yw fod Sepharad o fewn terfynau gwlad Edom.
Gyda dinasoedd y dehau.
21Ac esgyn gwaredyddion i fynydd Sïon,
Er barnu mynydd Esau;#1:21 Bernir i hyn gymeryd lle yn amser y Maccabeaid.
Ac eiddo Iehofa fydd y freniniaeth.

انتخاب شده:

Obadia 1: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید