Iona 3

3
PENNOD III.
1Pan ddaeth gair Iehofa at Iona yr eilwaith, gan ddywedyd, — 2“Cyfod, dos i Ninife, y ddinas fawr, a chyhoedda iddi y cyhoeddiad yr hwn a fynegaf i ti;” 3yna cyfododd Iona, ac aeth i Ninife yn ol gair Iehofa.
A Ninife oedd ddinas fawr iawn,#3:3 Yn llythyrenol, “fawr i Dduw,” sef, yn nghyfrif, neu yn ngolwg Duw. Ond cysylltir y gair Duw â phethau er dynodi eu mawredd. Gelwir y cedrwydd mawrion yn Ps. 80:10, yn gedrwydd Duw. Os cyfrifir ugain milldir yn daith diwrnod i ddyn ar ei draed, cyduna hyn â’r hanes a roddir gan awdwyr cenedlig, ei bod yn driugain milldir o amgylch. taith tri diwrnod. 4Pan ddechreuodd Iona fyned trwy’r ddinas daith un diwrnod, yna gwaeddodd a cyhoeddodd, — “Deugain niwrnod, a Ninife a ddymchwelir!” 5A gwŷr Ninife a gredasant Dduw, a chyhoeddasant ympryd; gwisgasant hefyd sachlenau o’r mwyaf hyd y lleiaf o honynt:#3:5 Dyma effaith taith un diwrnod; ac nid ymddengys i Iona draddodi ei bregeth ddychrynllyd onid dros un dydd. 6o herwydd daethai y gair#3:6 Sef, y gair a gyhoeddasai Iona. Dywedir yn yr adnod flaenorol am yr hyn a gymerodd le; a thraethir yma y modd y darfu hyn gymeryd lle, sef, trwy i’r gair ddyfod at y brenin, a thrwy ei orchymyn ef a’i bendefigion. Nis gwyddir yn sicr pwy oedd y brenin hwn. Tybia rhai mai Pul oedd, 2 Bren. 15:19. Tybia eraill mai Sardanapalus oedd, un nodedig am ei fuchedd drythyll rhyseddus. at frenin Ninife; yna cyfododd o’i orsedd, a diosgodd ei wisg oddiam dano, a gwisgodd sachlen, ac eisteddodd yn y lludw: 7a gwaeddwyd a chyhoeddwyd trwy Ninife, yn ol gorchymyn y brenin a’i bendefigion, gan ddywedyd, —
“Dyn ac anifail, eidion a dafad,
Na phrofant ddim, na phorant, a dwfr nac yfant;
8A gwisger â sachlenau ddyn ac anifail;
Ië, galwant ar Dduw yn egnïol,
A thröant bob un oddiwrth ei ffordd ddrwg
Ac oddiwrth y treisiant#3:8 “Treisiant,” sef yr hyn oeddent wedi ei dreisio, neu ei gymeryd trwy drais, — y weithred yn lle gwrthddrych y weithred. sydd yn eu dwylaw:
9Pwy a ŵyr a dry ac yr edifarhâ Duw,#3:9 Dywedir i Dduw edifarhâu pan na chyflawno y gosb a gyhoedda, a hyny pan edifarhäo dyn. Edifarhäed dyn am ei bechod, yna edifarhâ Duw am y farn a fygythia. Nid yw Duw yn hyn yn cyfnewid, gan yr addawa faddeuant i’r edifeiriol.
Ac y try oddiwrth angerdd ei ddigofaint,
Fel na’n dyfether.”
10Pan welodd Duw eu gweithredoedd, ddarfod iddynt droi oddiwrth eu ffordd ddrwg; yna edifarhäodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnai, ac nis gwnaeth.

انتخاب شده:

Iona 3: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید