Iona 2

2
PENNOD II.
1-2A gweddïodd Iona ar Iehofa ei Dduw o fol y pysgodyn, a dywedodd, —
Gelwais o’r cyfyngder a fu i mi
Ar Iehofa, a’m hateb a wnaeth;
O fol uffern y gwaeddais,
Gwrandawaist ar fy llef.#2:1-2 Cyfeiria yma, fel y gwna y Salmydd yn fynych, at yr hyn a gymerodd le mewn amser a aeth heibio. Bu o’r blaen mewn cyfyngder, a gwnaeth Duw ei ateb.
3Pan y teflaist fi i’r dyfnder,
I ganol y môr,
Yna’r llif a’m hamgylchodd,
Dy holl dònau a’th wanegau,
Trosof yr aethant.
4A myfi, dywedyd a wnaethum,
“Bwriwyf fi o ŵydd dy lygaid:”
Er hyny edrychaf eto#2:4 Mae “eto” yn dangos y cyfeiria yn yr ail adnod at waredigaeth a gawsai o’r blaen. Edrychasai o’r blaen tua theml Duw, gwnai edrych eto, er yn mol y morfil.
Tua’th deml sanctaidd.
5Cylchynodd fi ddyfroedd hyd yr enaid;
Y dyfnder, amgylcha fi;
Yr hesg, ymglymu y mae am fy mhen;
6At odre y mynyddoedd y disgynais;
Y ddaear! ei bolltiau arnaf yn wastad:#2:6 Gosod allan y ddaear fel dinas amgauedig a mur, a drysau ei phyrth wedi eu sicrhâu gan farau neu folltiau, er dangos yr anhawsderau oeddent iddo i ddychwelyd iddi.
Eto dyrchefi o ddystryw fy enaid,
O Iehofa, fy Nuw.
7Pan lewygodd ynof fy enaid,
Iehofa a gofiais;
A daw atat fy ngweddi
I’th deml sanctaidd.
8Y rhai a olygant eilunod ofer,#2:8 Neu, “eilunod gau.” Arwydda y gair oferedd a geudeb, gan fod geudeb, neu anwiredd, yn beth ofer a diles.
A’u trugaredd yr ymadawant.#2:8 Neu, “Eu trugaredd a wrthodant,” sef, y drugaredd a gynnygir iddynt. Trugaredd yw daioni Duw i rai truenus annheilwng. Gwrthoda y rhai a ganlynant eilunod, awdwr a rhoddwr trugaredd, neu yr hyn sydd yn drugaredd ac yn ddaioni penaf iddynt. Felly hefyd y gwna pawb a goleddant eilunod yn eu calonau, sef, pethau daearol, golud, anrhydedd, neu unrhyw wrthddrych bydol: gwrthodant y drugaredd, y da penaf, a roddir yn unig gan Dduw.
9Ond myfi, gyda llef moliant,
Yr aberthaf i ti;
Yr hyn a addunedais a dalaf:
Iachawdwriaeth! eiddo Iehofa ydyw.
10Yna llefarodd Iehofa wrth y pysgodyn; a bwriodd Iona i’r sychdir.

انتخاب شده:

Iona 2: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید