Hosea 5

5
PENNOD V.
1Clywch hyn, offeiriaid,
A gwrandewch, tŷ Israel,
A thŷ y brenin, rhoddwch glust: —
Mae i chwi famedigaeth!#5:1 Neu, gosbedigaeth, yr hyn a arwydda y gair yn aml.
Am mai magl ydych yn Mispa,
A rhwyd wedi ei lledu dros Tabor.
2A’r lladdfa, yr helwyr a ddyfnhasant,
Er i mi eu ceryddu hwynt oll.#5:2 Y “maglu” a’r “rhwydo” oedd er mwyn gwneyd dynion yn eilun-addolgar: yr oedd eto amryw o’r llwythau yn myned i addoli yn Ierusalem. Yr “helwyr” oeddynt yn dala y rhai hyn, ac naill yn eu lladd trwy eu rhoi i farwolaeth, neu yn eu lladd o ran eu heneidiau, trwy eu gwneyd yn eilun-addolwyr. “Dyfnhau” ’r lladdfa oedd ei gwneyd yn fwy llwyr. Gwnaent hyn er i Dduw eu ceryddu trwy y prophwydi. Mae rhyw frydiaeth hynod mewn delw-addolwyr! Ysbryd y pwll diwaelod sydd yn eu cynhyrfu.
3Myfi — adwaenaf Ephraim;
Ac Israel — nid cuddiedig yw rhagof:
Dïau yn awr puteiniaist di, Ephraim,
Halogwyd Israel:
4Nid ymdrechant i ddychwelyd at eu Duw,
O herwydd ysbryd puteindra sydd o’u mewn,
A’r Arglwydd nid adwaenant.
5Ond iselhëir balchder Israel sydd yn ei wyneb;#5:5 Mwy cydunol yma, ac yn pen. 7:10, â’r geiriau a ganlynant, yw cyfieithu y gair “iselhëir,” na “thystiolaetha;” ac felly ei ceir yn yr hen gyfieithiadau, oddieithr y Vulgate, ac yn y Targum, sef y cyfieithiad Caldeaidd, a wnaed gan Iddew. Yn pen. 7:10, lle cawn yr un geiriau; cyduna’r Vulgate â’r cyfieithiadau eraill. “Yn ei wyneb:” dangosir balchder yn neillduol yn y wyneb; gwel Diar. 21:4.
Ïe, Israel ac Ephraim a syrthiant am eu trosedd;
Syrthia hefyd Iowda gyda hwynt:
6Gyda eu defaid a’u gwartheg,
Y deuant i geisio yr Arglwydd;
Ond nis cânt — enciliodd oddiwrthynt:
7I’r Arglwydd y buant yn anffyddlawn,
O herwydd plant estronol a genedlasant.#5:7 Dygent i fyny eu plant yn eilun-addolwyr. Peth estronol oedd eilun-addoliaeth, wedi ei dderbyn oddiwrth y cenedloedd amgylchol.
Yn awr difa hwynt fis#5:7 Nid mwy na mis o amser a fyddai yn ofynedig tuag at eu llwyr ddyfetha. Eu “rhanau,” medd rhai, oedd eu hetifeddiaethau a ranwyd iddynt ar y cyntaf trwy goelbren; neu, medd eraill, eu delwau a’u heilunod, a ddewisent yn rhan iddynt yn lle Duw. ynghyd â’u rhanau.
8Chwythwch y corn yn Gibea,
Yr udgorn yn Rama,
Bloeddiwch yn Bethafen, —
Dy hiliogaeth di, Beniamin!#5:8 Lleoedd oedd y rhai’n yn llwyth Beniamin. Rhybuddir Beniamin trwy gyhoeddi dedfryd Ephraim.
9Ephraim, — yn ddiffeithwch y bydd yn nydd y cerydd:
I lwythau Israel yr hysbysais yr hyn a fydd yn ddïammhau.
10Bu tywysogion Iowda fel symudwyr terfyn;
Arnynt y tywalltaf fel dwfr fy nigder.
11Gorthrymedig fydd Ephraim,
Drylliedig gan farnedigaeth,
Am rodio o’i fodd ar ol gwagedd.#5:11 Pechod Iowda oedd symud y terfyn rhwng gwir a gau grefydd, trwy agoryd y drws i ddelw-addoliaeth. Pechod Ephraim oedd rhodio o’i fodd ar ol eilun-addoliaeth a ddygid i mewn gan Ieroboam, sef addoliad y lloi. Cyfieitha rhai, “ar ol y gorchymyn,” sef eiddo y brenin hwnw. Ond “ar ol gwagedd,” neu frynti, sydd yn ol yr hen gyfieithiadau, a’r Targum hefyd.
12A myfi, fel gwyfyn y bu’m i Ephraim,#5:12 Am amser a aeth heibio yn ddïau y dywedir, fel y dengys yr adnod nesaf. Y “gwyfyn” yw dinystrydd dillad, a “phryf,” y coed. Yr hyn a ddynodir yw graddol adfeiliad y ddwy deyrnas trwy y barnau gwladol a ddygasai Duw arnynt.
A fel pryf i dŷ Iowda:
13Pan welodd Ephraim ei lesgedd
A Iowda ei glwyf;
Yna aeth Ephraim at yr Assyriad,
Ïe, danfonodd at frenin cynhenus;#5:13 “Frenin yr ymddïalydd,” yw y Vulgate a’r Targum. Brenin Assyria a feddylir.
Ond efe nid allai eich gwella chwi,
Ac ni symudai oddiwrthych y clwyf.
14Ond myfi — fel llew y byddaf i Ephraim,
Ac fel cenaw llew i dŷ Iowda;
Myfi — myfi a larpiaf ac a ymadawaf,
Dygaf ymaith, ac ni bydd achubydd:
15Ymadawaf, dychwelaf i’m lle fy hun,#5:15 Ni wnai Duw ar yr amser hyn amlygu ei hun iddynt: dengys yr ymadawai oddiwrthynt o ran ei ofal am danynt.
Hyd oni addefont eu bai, ac y ceisiont fy ngwyneb;
Pan ddel cyfyngder arnynt, dwys geisiant fi,#5:15 Bore geisio a arwydda dyfal neu ddwys geisio, gan y gwneir yn gyffredin yn y bore unrhyw waith pwysfawr. gan ddywedyd,

انتخاب شده:

Hosea 5: CJO

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید