Habacuc 3
3
PENNOD III.
1Gweddi o eiddo Habacuc y prophwyd, ar fesur yr awdlau rhyddion: — #3:1 Neu, direol. Meddylir yn gyffredin mai nodwedd mesurau y gân a ddynodir: cân rydd yw, heb fod yn ôl y rheolau cyffredin.
2Arglwydd, clywais dy ymadrodd#3:2 Sef, yr hyn a draethodd yn y bennod gyntaf am ddyfodiad y Caldead i ddinystrio y wlad. ac ofnais;
Arglwydd, dy waith!
Yn nghanol y blyneddau adfywia ef,
Yn nghanol y blyneddau gwna ef yn eglur;
Mewn digofaint cofia drugaredd.
3Duw, o Teman y daethai,
A’r Sancteiddlan o fynydd Paran: Selah:
Gorchuddiodd y nefoedd ei ogoniant,
A’i ddysgleirdeb a lanwodd y ddaear;
4A’r llewyrch, fel goleuni yr ydoedd;
Pelydrau oeddent iddo oddiwrth ei law,
Ac yno yr oedd dirgelfan ei allu:
5Oddi ger ei fron y daeth y gair,#3:5 Sef y ddeddf: cyhoeddodd hi ar fynydd Sinai.
A daeth allan oleu tanllyd odditan ei draed:
6Safodd, a mesurodd y ddaear;
Edrychodd, a gwasgarodd genedloedd;
Ymholltodd hefyd fynyddau parhaus,
Crymodd bryniau yr oesoedd:
Llwybrau’r cynfyd oeddent iddo.#3:6 Tebyg oedd ei waith i’r hyn a wnaethai wrth greu y byd.
7Tan adfyd y gwelais bebyll Cusan,
Dychrynodd lleni gwlad Midian.
8Ai yn erbyn afonydd, Arglwydd,
Ai yn erbyn afonydd, y cynneuodd dy lid?
Ai yn erbyn y môr dy ddigofaint,
Pan farchogaist ar dy feirch,
Yn dy gerbydau o waredigaeth?
9Gan ddynoethi dynoethaist dy fwa,
Llenwaist â saethau dy wregys; Selah;
A holltaist â ffrydiau y ddaear.
10Gwelsant#3:10 Sef y mynyddoedd a’r dylif, a enwir yn y geiriau a ganlynant. di — crynodd y mynyddoedd,
Dylif dyfroedd a aeth heibio:
Dyrchafodd y dyfnder ei lef,
Yr uchelder, ei ddwylaw a gyfododd.
11Yr haul! y lleuad!
Hon a safodd, yntau a arosodd;
Er goleu i’th saethau a ehedent,
Er llewyrch i’th waewffon ddysglaer.
12Mewn digofaint y cerddaist trwy y wlad,#3:12 Cyfeiria at oresgyniad gwlad Canaan pan ddygwyd yr Israeliaid i feddiant o honi
Mewn digder y dyrnaist genedloedd;
13Daethost allan i waredu dy bobl,
I waredu dy rai eneiniog:
Tarawaist y pen o dŷ yr anwir,
Gan ddynoethi y sylfaen oedd hyd y gwddf;
14Trywanaist â’i ffyn ei hun ben ei faesdrefydd:
Daethant fel corwynt i’m gwasgaru;
Eu llawenydd oedd megys i fwyta y tlawd yn y dirgel:
15Rhodiaist trwy y môr â’th feirch,
Gan derfysgu dyfroedd cryfion.
16Pan glywais,#3:16 Yr un peth a feddylir ag y cyfeiria ato yn yr ail adnod. dychrynodd fy ymysgaroedd;
Wrth dy lef crynodd fy ngwefusau,
Pydredd a aeth trwy fy esgyrn;
Ac yn fy lle y crynaf,
O herwydd arosaf hyd ddydd yr adfyd,
Hyd esgyniad y bobl a ruthrant arnom.
17Dïau y ffigysbren ni flodeua,
Ac ni bydd cynnyrch ar y gwinwydd
Palla ffrwyth yr olewydden,
A’r meusydd, nid un a rydd gnwd;
Torir ymaith o’r gorlan y praidd,
Ac ni bydd eidion yn y beudŷ;
18Eto myfi — yn yr Arglwydd y llawenychaf,
Gorfoleddaf yn Nuw fy Ngwaredwr;
19Yr Arglwydd Dduw a fydd fy nerth,
A gwna fy nhraed fel eiddo’r ewigod,
Ac ar fy uchelderau y pâr i mi rodio.
I’r arweinydd ar y peiriannau tant.
انتخاب شده:
Habacuc 3: CJO
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.