Matthaw 4
4
PENNOD IV.
Ynpryd a Profedigaeth Christ. Y mae efe yn pregethu; yn galw Simon, ac Andreas, a Iacob a Ioan; ac yn iachau yr holl gleifion.
1AR ol hyn yr Iesu a arweiniwyd i’r anialwch gan yr yspryd, i’w brofi gan y camgyhyddwr. 2Yna’r Iesu wedi cael ei gadw heb ymborth deugain diwrnod a deugain nôs, a ddaeth o’r diwedd yn chwantbwydig. 3A’r profwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os wyt ti yn fab Duw, arch fel y bydd i’r cerrig hyn fôd yn fara. 4Yntef a attebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Ni fydd byw dŷn trwy fara yn unig, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw. 5Yna y camgyhyddwr a’i cymmerth ef i’r ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar nen twryn y deml. 6Ac a ddywed wrtho, Os wyt fab Duw, tafl dy hun i lawr, canys y mae yn yscrifennedig y rhydd efe i’w angelion orchymmyn am danat; ar eu dwylaw hwy a’th ddygant, rhag i’th daro dy droed wrth garreg. 7Yr Iesu a ddywedodd, Y mae hefyd yn yscrifennedig, Na chais brofi yr Arglwydd dy Dduw. 8Y camgyhyddwr etto a’i cymmerth ef i ben mynydd uchel iawn, ac a arddangosodd iddo holl lywodraethodd y bŷd, a’u clodfawredd. 9Ac a ddywedodd wrtho, Y pethau hyn oll a rhoddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i. 10Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymmaith, Satan; canys y mae yn yscrifennedig, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasnaethi. 11Ar hyn y camgyhyddwr a’i gadawodd ef, ac wele angylion a ddaethant ac a weiniasant iddo. 12Pan glybu’r Iesu i Ioan gael ei fradychu, efe a aeth i Galilaia. 13A chan adaw Nazaret, efe a aeth ac a drigodd gerllaw Kapernawm, yr hon sydd ar lan y llyn yn gyffiniau Zabulon a Neptalim. 14Fel y cyflawnid yr hyn a draethwyd trwy Esaias y rhagweledydd, pan ddywedodd, 15“Tir Zabwlon, a thir Neptalim, glan y môr, tu hwnt i’r Iordan, Galilaia y cenhedloedd. 16Y bobl a oeddynt yn eistedd mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent yn nhir a chysgod angau, goleuni a lewyrchodd.” 17O’r pryd hynny y dechreuodd yr Iesu i gyhoeddi a dywedyd, Edifarhewch, canys y mae’r lywodraeth nefawl yn nessai. 18A’r Iesu yn rhodio o gylch fôr Galilaia, a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr (canys oeddynt bysgodwyr.) 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a’ch gwnaf yn bysgodwŷr dynion. 20A hwy yn y fan, gan adael y rhywdau, a’i canlynasant ef. 21Ac wedi myned oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, mewn cwch gyd â Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau: ac a’u galwodd hwy. 22Hwythau yn ebrwydd, gan adael y cwch, a’u tad, a’i canlyasant ef. 23A’r Iesu a aeth o amgylch holl wlâd Galilaia, gan athrawiaethu yn eu synagogau, a chyhoeddi newydd da y frenhiniaeth, a iachâu pob dolur a phob afiechyd yn mlith y bobl. 24Ac aeth clôd am dano trwy holl Syria; a dygassant atto yr holl rhai anwhylus a oeddynt yn gystuddiedig gan amrhyw gelfydau a phrofedigaethau, a’r rhai claf o’r ddueg, ar rhai lloerig, a’r rhai parlysaidd; ac efe a’u iachaodd hwynt. 25A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilaia, a Dekapolis, a Ierosalem, a Iwdaia, ac o r tu hwnt i’r Iordan.
اکنون انتخاب شده:
Matthaw 4: JJCN
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.