Matthaw 3
3
PENNOD III.
Pregeth Ioan; a Bedydd Christ yn yr Iordan.
1YN yr un dyddiau daith Ioan Fedyddiwr#3.1 Bêd, mêd, fêd, oedd yr hen air am afon neu ddwfr: fal hyn: Bêd} ..............................................{gwlybrwydd Afon} sydd yn arwyddoccai {symmydiaid Dwfr} ............................................{diferiad Oddiymma Bedydd, Bedyddio, Bedyddiwr, ydynt or un ystyr ag Afonydd, Afonyddio, Afonyddiwr. i bregethu yn wastadedd Iudaia. 2Gan ddywedyd, Edifarhewch, y mai’r Frenhiniaeth nefoedd yn nessau. 3Canys hwn yw yr un a draethwyd am dano gan Esaias y prophwyd, pan ddywedodd, Llef un yn cyhoeddu yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn gywir. 4A dillad Ioan oeddynt o flew y camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5Yna aethant allan atto ef Ierusalem, a holl Iudaia, a’r holl wlad o gyffiniau’r Iordan. 6A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iordan gan gyfaddef eu troseddau. 7A phan welodd lawer o’r Pharisai ac o’r Sadwkai yn dyfod i’w fedyddfan ef, efe a ddywedodd wrthynt, Genhedlaeth gwiberoed, oni ddarfu i un euch rhagrhybyddio i ffoi rhag yr anfoddlonrhwydd a fydd? 8Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch. 9Ac na feddylwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae gennym ni Abraham yn dâd i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi y dichon Duw yn mhellach, ïe o’r meini hyn gyfodi plant i Abraham. 10Ac yr awr hon y gosodir y fwyall ar wreiddyn y coed, pôb pren gan hynny nid yw yn dwyn ffrwythau da, a gwympir i lawr, ac a deflir i’r tân. 11Myfi ydwyf yn eich bedyddio chwi yn y dwfr i edifeirwch; eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd fwy galluog na myfi, ac nid wyf deilwng i ddwyn ei escidiau; efe ach bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân, neu yn y Tân. 12Ei wyntill sydd yn ei law, ac efe a lwyr lanhâ ei lawr dyrnu: yna efe a gascl ei wenith i’w yscubo r, eithr yr ûs efe a lysc a thân anniffoddadwy. 13Yn yr amser hyn y daeth yr Iesu o Galilaia tu a’r Iordan at Ioan, i’w gael ei fedyddio ganddo. 14Eithr Ioan a wrthododd iddo, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennit ti, ac a ddeui ti attaf fi? 15Ond yr Iesu a attebodd, Gâd yr awr hon, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder; yna efe a adawodd iddo. 16A’r Iesu wedi ei fedyddio a aeth allan o’r dwfr; ac wele y nefoedd a agorwyd; a wele Yspryd Duw yn ishau fel colomen, ac yn discyn arno. 17A clyw lef o’r nefoedd yn galw, “HWN YW FY ANWYL FAB, YN YR HWN FE’M LLAWNFODDLONWYD.”
اکنون انتخاب شده:
Matthaw 3: JJCN
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.