Yr Actau 26
26
1Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniatteir i ti ddywedyd drosot dy hun. Yna Paul, wedi estyn ei law, a amddiffynodd ei hun;
2Ynghylch yr holl bethau y cyhuddir fi o honynt gan yr Iwddewon, frenhin Agrippa, tybiaf fy hun yn ddedwydd gan mai ger dy fron di yr wyf ar fedr amddiffyn fy hun heddyw; 3yn enwedig gan dy fod yn gydnabyddus â’r holl ddefodau ymhlith yr Iwddewon, a’r cwestiynnau hefyd; o herwydd paham deisyfiaf arnat fy ngwrando yn amyneddus. 4Fy muchedd, gan hyny, o’m hieuengetyd, yr hon, o’r dechreuad, a fu ymhlith fy nghenedl yn Ierwshalem, a ŵyr yr holl Iwddewon, 5gan fy adnabod o’r cyntaf, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y sect fanylaf o’n crefydd y bu’m fyw yn Pharishead. 6Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau ni gan Dduw, yr wyf yn sefyll yn cael fy marnu; 7i’r hwn addewid, ein deuddeg llwyth gyda thaerni, nos a dydd, yn gwasanaethu Duw, a obeithiant ddyfod; am yr hwn obaith y cyhuddir fi gan yr Iwddewon, O frenhin. 8Paham mai anghredadwy y bernir yn eich plith y bydd i Dduw gyfodi’r meirw? 9Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun, mai yn erbyn enw Iesu y Natsaread yr oedd rhaid gwneuthur llawer o bethau gwrthwynebol. 10Yr hyn hefyd a wnaethum yn Ierwshalem; a llawer hefyd o’r saint myfi a gauais mewn carcharau, wedi derbyn yr awdurdod gan yr archoffeiriaid; a phan laddwyd hwy, yn eu herbyn y rhoddais fy llais. 11Ac yn yr holl sunagogau, llawer gwaith, gan eu cospi y cymhellwn hwynt i gablu; a thros ben allan o’m pwyll yn eu herbyn, erlidiwn hwynt hyd y dinasoedd estronol hefyd. 12Ac yn y pethau hyn wrth fyned i Damascus gydag awdurdod a chaniattad oddiwrth yr archoffeiriaid, 13ar hanner dydd ar y ffordd y gwelais, O frenhin, oleuni o’r nef, tu hwnt i ddisgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, ac o amgylch y rhai yn myned gyda mi. 14A’r oll o honom wedi syrthio i lawr ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn iaith yr Hebreaid, Shawl, Shawl, paham mai myfi a erlidi? Caled i ti yw gwingo yn erbyn y symbylau. 15Ac myfi a ddywedais, Pwy wyt, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid. 16Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys er hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod yn weinidog ac yn dyst yn gystal o’r pethau yn y rhai y gwelaist Fi, 17ag o’r rhai yr ymddangosaf i ti ynddynt, gan dy wared oddiwrth y bobl, ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy ddanfon i agoryd eu llygaid, 18er mwyn troi o honynt o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn derbyn o honynt faddeuant pechodau ac etifeddiaeth ym mysg y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd Ynof. 19O achos hyn, O frenhin, ni fu’m anufudd i’r weledigaeth nefol, 20eithr i’r rhai yn Damascus yn gyntaf, ac Ierwshalem hefyd, a thrwy holl wlad Iwdea, ac i’r cenhedloedd y mynegais ar edifarhau a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch. 21O achos y pethau hyn yr Iwddewon, wedi fy nal yn y deml, a geisiasant fy lladd i. 22Wedi cael, gan hyny y cymmorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fychain a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na’r pethau y bu i’r Prophwydi lefaru am danynt megis ar fedr digwydd, a Mosheh hefyd, 23mai i ddioddef yr oedd Crist, mai Efe yn gyntaf, trwy adgyfodiad y meirw, oedd ar fedr mynegi goleuni i’r bobl, ac i’r cenhedloedd hefyd.
24A phan â’r pethau hyn yr amddiffynodd ei hun, Ffestus â llef uchel a ddywedodd, Allan o’th bwyll yr wyt, Paul; mawredd dy ddysg, i ammhwylldra y’th dry. 25Ond Paul, Nid allan o’m pwyll yr wyf, ebr efe, ardderchoccaf Ffestus, eithr ymadroddion gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu hadrodd; 26canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd gydag hyder yr wyf yn llefaru; canys fod rhyw beth o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo, nid wyf yn credu modd yn y byd, canys nid mewn congl y gwnaed hyn. 27Ai credu’r Prophwydi yr wyt, frenhin Agrippa? 28Gwn dy fod yn credu. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Rhyw ychydig y perswadi fi, i wneuthur Cristion o honof. 29A Paul a ddywedodd, Dymunwn gan Dduw, am nid “rhyw ychydig” ond yn fawr y byddai nid tydi yn unig, eithr pawb hefyd y sy’n fy nghlywed heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, namyn y rhwymau hyn.
30A chyfododd y brenhin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn cyd-eistedd â hwynt; 31ac wedi cilio o honynt, llefarasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid oes dim yn haeddu angau neu rwymau a wnaeth y dyn hwn. 32Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ei ollwng ymaith yn rhydd a allasai’r dyn hwn, pe na fuasai iddo appelio at Cesar.
Actualmente seleccionado:
Yr Actau 26: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.