Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Yr Actau 27

27
1A phan benderfynwyd morio o honom ymaith i’r Ital, traddodasant Paul, a rhyw garcharorion eraill hefyd, i ganwriad a’i enw Iwlius, o fyddin Augustus. 2Ac wedi dringo i long o Adramatium, ar fedr hwylio i leoedd arforol Asia, aethom allan o’r porthladd, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica. 3A thrannoeth y troisom i mewn i Tsidon; ac Iwlius yn ymddwyn yn garedigol tuag at Paul, a ganiattaodd iddo fyned at ei gyfeillion a chael ymgeledd. 4Ac wedi myned oddi yno, hwyliasom dan Cuprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. 5Ac wedi hwylio o honom dros y môr sydd ger llaw Cilicia a Pamphulia, daethom i Mura, dinas yn Lucia. 6Ac yno wedi cael o’r canwriad long o Alecsandria, yn hwylio i’r Ital, gosododd ni ynddi. 7A llawer o ddyddiau yr hwyliasom yn anniben, a phrin y daethom ar gyfer Cnidus am na adawai y gwynt i ni, a hwyliasom dan Creta, 8ar gyfer Salome; ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, daethom i ryw le a elwir Caloi Limenes, agos at yr hwn yr oedd y ddinas Lasea.
9A llawer o amser wedi myned heibio, a morio yn awr yn enbyd, a chan fod yr Ympryd yn awr wedi myned heibio, 10cynghorodd Paul, gan ddywedyd wrthynt, Dynion, gwelaf mai gyda sarhad a llawer o golled, nid yn unig i’r llwyth a’r llong, eithr i’n heinioes ni hefyd, y mae’r morio ar fedr bod. 11Ond y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul. 12A chan mai anghyfleus i auafu oedd y porthladd, y rhan fwyaf a roisant gynghor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i auafu yno, yr hwn sydd borthladd yn Creta, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain a’r deheu-ddwyrain. 13A phan chwythodd y deheu-wynt yn araf, gan feddwl y cawsent eu hamcan, wedi codi’r angorau, moriasant heibio yn agos i Creta. 14Ac ar ol nid llawer o amser y curodd i lawr oddi wrthi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Eur-acwilo. 15A’r llong wedi ei chipio, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ymroisom iddo a dygpwyd ni ganddo. 16A than ryw ynys fechan y rhedasom; a gallasom gyda gwaith mawr sicrhau y bad; 17ac wedi ei godi ef i fynu, cynnorthwyon a ddefnyddiasant gan wregysu y llong oddi dani; a chan ofni y bwrid hwynt ar y Surtis, gollyngasant yr hwyl, ac felly y dygpwyd hwynt. 18A chan yn ddirfawr y’n teflid gan y dymmestl, trannoeth y taflent allan y llwyth; 19a’r trydydd dydd, â’u dwylaw eu hunain y bwriasant allan daclau’r llong. 20A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am lawer o ddyddiau, a thymmestl nid bychan yn pwyso arnom, dygpwyd ymaith o hyny allan bob gobaith o’n bod yn gadwedig. 21A hir ddirwest wedi bod, yna y safodd Paul yn eu canol, a dywedodd, Yr oedd rhaid, ddynion, i chwi, gan eich perswadio genyf fi, beidio â myned allan o Creta ac ynnill y sarhad yma a’r golled. 22Ac yr awr hon annogaf chwi i fod yn galonus, canys coll einioes ni fydd ddim i chwi, eithr coll y llong; 23canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr Hwn a’m piau, a’r Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu, yn dywedyd, Nac ofna Paul; 24ger bron Cesar y mae rhaid i ti sefyll; ac, wele, rhoddes Duw i ti yr holl rai sy’n morio gyda thi. 25Gan hyny, byddwch galonus, ddynion; canys credaf Dduw mai felly y bydd, yn ol y modd y llefarwyd wrthyf. 26Ond ar ryw ynys y mae rhaid ein bwrw.
27A phan y bedwaredd nos ar ddeg ydoedd, ac ein dwyn yma ac accw ym mor Adria, tua hanner nos, tybiodd y morwyr eu bod yn nesau at ryw wlad; 28ac wedi plymio, cawsant ugain gwrhyd; ac wedi myned yspaid byr a phlymio drachefn, cawsant bymtheg gwrhyd; 29a chan ofni rhag arleoedd geirwon y’n bwrid, o’r pen ol y bwriasant allan bedair angor, a dymunasant ei myned hi yn ddydd. 30A’r llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i wared i’r môr yn rhith mai o’r pen blaen i’r llong yr oeddynt ar fedr rhoddi allan angorau, 31dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Oni bydd i’r rhai hyn aros yn y llong, chwychwi ni ellwch fod yn gadwedig. 32Yna y milwyr a dorrasant raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. 33A thra yr oedd y dydd ar fedr dyfod, annogodd Paul bawb o honynt i gymmeryd lluniaeth, gan ddywedyd, Y pedwarydd dydd ar ddeg yw heddyw yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymmeryd dim; 34gan hyny, annogaf chwi i gymmeryd lluniaeth, canys hyn, er eich diogelwch y mae, canys i neb rhyw un o honoch ni bydd blewyn oddi ar ei ben yn golledig. 35Ac wedi dywedyd y geiriau hyn, a chymmeryd bara, diolchodd i Dduw yngwydd pawb; ac wedi ei dori ef, dechreuodd fwytta. 36Ac wedi myned yn galonus, pawb o honynt hwythau hefyd a gymmerasant luniaeth. 37Ac yr oeddym yn y llong, yr holl eneidiau o honom, yn ddau gant ac un ar bymtheg a thrugain. 38Ac wedi eu digoni o luniaeth, ysgafnhaent y llong gan fwrw’r gwenith allan i’r môr. 39A phan aeth hi yn ddydd, y tir nid adwaenent; ond rhyw gilfach a ganfuant, i’r hon yr oedd traeth, yr hwn yr ymgynghorasant a allent wthio’r llong arno. 40A’r angorau gan eu bwrw hwynt ymaith, a adawsant yn y môr, ar yr un pryd yn gollwng rhwymau’r llywiau; ac wedi codi’r hwyl-flaen i’r gwynt, ceisiasant y traeth. 41Ac wedi syrthio i le deufor-gyfarfod, gyrrasant y llong i’r traeth; a’r pen blaen iddi a darawodd ac a arhosodd yn ddiysgog; ond y pen ol a ymddattodai gan nerth y tonnau. 42A chyngor y milwyr oedd lladd y carcharorion, rhag i neb o honynt, gan nofio allan, ddiangc: 43ond y canwriad, yn chwennych cadw Paul, a’u rhwystrodd rhag eu hamcan, ac a archodd i’r rhai a fedrent nofio, ymfwrw i’r môr, a myned yn gyntaf i’r tir; 44ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw bethau o’r llong. Ac felly y digwyddodd i bawb ddyfod yn ddiangol i’r tir.

Actualmente seleccionado:

Yr Actau 27: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión