Yr Actau 25
25
1Ffestus, gan hyny, wedi dyfod i’r dalaith, ar ol tri diwrnod a aeth i fynu i Ierwshalem o Cesarea. 2Ac wrtho yr hyspysodd yr archoffeiriaid a phennaethiaid yr Iwddewon yn erbyn Paul: 3a deisyfiasant arno, gan ofyn ffafr yn ei erbyn ef, y danfonai am dano i Ierwshalem, gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd. 4Ffestus, gan hyny, a attebodd, Y cedwid Paul yn Cesarea, ac ei fod ef ei hun ar fedr myned allan yn fuan. 5Gan hyny, ebr efe, y rhai galluog yn eich plith, wedi myned i wared gyda mi, os oes yn y dyn ryw beth allan o’i le, cyhuddant ef.
6Ac wedi aros yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, wedi myned i wared i Cesarea, trannoeth, gan eistedd ar y frawd-faingc, y gorchymynodd i Paul gael ei ddwyn ger ei fron; 7ac wedi dyfod o hono, o’i amgylch y safodd yr Iwddewon a ddaethent i wared o Ierwshalem; a llawer o gyhuddiadau, a thrymion hefyd, a ddygasant yn ei erbyn, 8y rhai ni allent eu profi, a Paul yn amddiffyn ei hun, gan ddywedyd, Nac yn erbyn Cyfraith yr Iwddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar ni phechais ddim. 9A Ffestus yn ewyllysio ynnill ffafr gyda’r Iwddewon, gan atteb i Paul, a ddywedodd, A ewyllysi di, wedi myned i fynu i Ierwshalem, gael dy farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron? 10A dywedodd Paul, Ger bron brawd-faingc Cesar yn fy sefyll yr wyf, lle y mae rhaid i mi gael fy marnu. I’r Iwddewon ni wnaethum ddim anghyfiawnder, fel yr wyt ti hefyd yn gwybod yn dda. 11Os yn wir, gan hyny, gwneud anghyfiawnder yr wyf, a rhyw beth yn haeddu angau a wnaethum, ni ofynaf beidio â marw; ond os nad oes dim o’r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo o honynt, nid oes neb a all fy rhoddi iddynt. At Cesar yr appeliaf. 12Yna Ffestus, wedi ymddiddan â’r cynghor, a attebodd, At Cesar yr apeliaist, at Cesar yr ei.
13A rhai dyddiau wedi myned heibio, Agrippa y brenhin a Bernice a ddaethant i wared i Cesarea, gan gyfarch Ffestus. 14A phan llawer o ddyddiau a dreuliasant yno, Ffestus a roddodd o flaen y brenhin fatterion Paul, gan ddywedyd, Rhyw ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn rhwym; 15ynghylch yr hwn yr hyspysodd yr archoffeiriaid ac henuriaid yr Iwddewon, gan ofyn condemniad yn ei erbyn; 16wrth y rhai yr attebais nad yw arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i fynu cyn i’r cyhuddol gael y cyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfleusdra i amddiffyn ei hun ynghylch y cyhuddiad. 17Wedi dyfod o honynt ynghyd, gan hyny, yma, dim oed ni wnaethum, ond trannoeth gan eistedd ar y frawd-faingc, gorchymynais ddwyn y gŵr ger bron; 18am yr hwn y cyhuddwyr yn eu sefyll, ni ddygasant ddim achwyn o’r pethau drwg a dybiais i; 19ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu a fu farw, yr Hwn y dywedai Paul Ei fod yn fyw. 20Ac myfi, wedi fy nyrysu o ran holi ynghylch y pethau hyn, a ddywedais, A fynnai efe fyned i Ierwshalem ac ei farnu yno ynghylch y pethau hyn: 21a Paul wedi appelio i’w gadw am benderfyniad Augustus, gorchymynais ei gadw nes y danfonwn ef i fynu at Cesar. 22Ac Aggrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ewyllysiwn innau hefyd glywed y dyn. Y foru, ebr efe, y clywi ef.
23Trannoeth, gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice, gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i’r gwrandaw-le ynghyda’r milwriaid a phendefigion y ddinas, ac wedi gorchymym o Ffestus, dygpwyd Paul ger bron. 24A dywedodd Ffestus, Agrippa frenhin, a’r holl wŷr yn bresennol gyda ni, gwelwch y dyn hwn, ynghylch yr hwn holl liaws yr Iwddewon a ymbiliasant â mi yn Ierwshalem ac yma, gan waeddi na ddylai efe fyw yn hwy. 25Ond myfi a ddeallais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau: ond efe ei hun wedi appelio at Augustus, bernais ei ddanfon ef; 26am yr hwn nid oes genyf ddim sydd sicr i’w ysgrifenu at fy arglwydd. Gan hyny, dygais ef ymlaen ger eich bron, ac yn enwedig ger dy fron di, frenhin Agrippa, fel, holiad wedi ei wneuthur, y bo genyf ryw beth a ysgrifenaf; 27canys allan o reswm yr edrych i mi, wrth ddanfon carcharor, beidio ag hyspysu hefyd yr achwynion yn ei erbyn.
Actualmente seleccionado:
Yr Actau 25: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.