Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Yr Actau 15

15
1A rhyw rai wedi dyfod i wared o Iwdea, a ddysgent y brodyr, Oddieithr amdorri arnoch yn ol defod Mosheh, ni ellwch fod yn gadwedig. 2Ac wedi digwydd ymryson a chwestiynu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, ordeiniasant esgyn o Paul a Barnabas a rhyw rai eraill o honynt, i Ierwshalem at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn. 3Hwy, gan hyny, wedi eu hebrwng gan yr eglwys, a dramwyasant trwy Phenice a Shamaria, dan fynegi troad y cenhedloedd; a pharasant lawenydd mawr i’r holl frodyr. 4Ac wedi dyfod i Ierwshalem, derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. 5A chyfododd rhai o sect y Pharisheaid, credinwyr, gan ddywedyd, Y mae rhaid amdorri arnynt a gorchymyn cadw Cyfraith Mosheh.
6A chasglwyd ynghyd yr apostolion a’r henuriaid i edrych ynghylch y matter hwn; 7a llawer cwestiynu wedi bod, cyfododd Petr, a dywedodd wrthynt, Brodyr, chwi a wyddoch mai yn y dyddiau cyntaf yn eich plith y dewisodd Duw mai trwy fy ngenau i y clywai y cenhedloedd Air yr efengyl a chredu o honynt, 8ac yr Adnabyddwr calonnau, Duw, a dystiolaethodd iddynt, 9gan roddi yr Yspryd Glân, fel ag i ninnau: ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan lanhau trwy ffydd eu calonnau hwynt. 10Yr awr hon, gan hyny, paham y temtiwch Dduw, fel y dodech iau ar war y disgyblion, hon nid oedd nac ein tadau na nyni yn gallu ei dwyn? 11Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu y credwn yr achubir ni, yn yr un modd ag y credant hwythau hefyd.
12A thawodd yr holl liaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn mynegi pa faint o arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy. 13Ac wedi tewi o honynt, attebodd Iago, a dywedodd,
Brodyr, gwrandewch arnaf. 14Shimon a fynegodd pa wedd ar y cyntaf y bu i Dduw ymweled i gymmeryd o’r cenhedloedd bobl i’w enw; 15ac â hyn y cyttuna geiriau y Prophwydi, fel yr ysgrifenwyd,
16“Ar ol y pethau hyn y dychwelaf,
Ac adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd y sydd wedi syrthio;
A’i fylchau a adeiladaf drachefn,
A gosodaf ef yn syth i fynu;
17Fel y ceisio y gweddill o ddynion am Iehofah,
A’r holl genhedloedd ar y rhai y gelwir Fy enw,
18Medd Iehofah y sy’n hysbysu’r pethau hyn er’s erioed.”
19Gan hyny, myfi a farnaf beidio â blino y rhai o’r cenhedloedd y sy’n troi at Dduw; 20eithr gorchymyn iddynt ymgadw oddiwrth halogrwydd eilunod, a godineb, ac y peth a dagwyd, a gwaed; 21canys Mosheh, er’s y cenhedlaethau gynt, sydd a chanddo ym mhob dinas y rhai a’i pregethant ef, yn cael ei ddarllen yn y sunagogau bob Sabbath.
22Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyda r holl eglwys, wedi ethol dynion o honynt eu hunain, eu danfon i Antiochia ynghyda Paul a Barnabas, sef, Iwdas, yr hwn a elwir Barshabbas, a Silas, dynion rhagorol ymhlith y brodyr, 23gan ysgrifenu trwyddynt hwy, Yr apostolion a’r brodyr hynaf, at y brodyr yn Antiochia a Syria, a Cilicia, y rhai sydd o’r cenhedloedd, yn anfon annerch. 24O herwydd clywed o honom fod rhai a aethant allan oddi wrthym wedi eich trallodi â geiriau, gan ddym-chwelyd eich eneidiau, i’r rhai ni roisom orchymyn; 25gwelwyd yn dda genym yn unfryd, wedi ethol dynion, 26eu danfon attoch ynghyda’n hanwylyd Barnabas a Paul, y rhai a roisant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. 27Danfonasom, gan hyny, Iwdas a Silas, a hwythau ar air a fynegant yr un pethau; 28canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd Glân a ninnau, beidio â dodi arnoch ddim mwy o faich namyn y pethau angenrheidiol hyn, 29sef ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb; oddiwrth y rhai hyn, os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.
30Hwy, gan hyny, wedi eu gollwng ymaith a ddaethant i wared i Antiochia; ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, 31rhoisant y llythyr: ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychasant am y diddanwch. 32Ac Iwdas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy ymadrodd lawer y cynghorasant y brodyr ac y’u cadarnhasant; 33ac wedi treulio rhyw amser, gollyngwyd hwynt ymaith mewn heddwch oddiwrth y brodyr at y rhai a’u danfonasant. 35A Paul a Barnabas a arhosasant yn Antiochia, yn dysgu ac efengylu, ynghydag eraill lawer, Air yr Arglwydd.
36Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn yn awr ac ymwelwn â’r brodyr ym mhob dinas yn y rhai y mynegasom Air yr Arglwydd, i weled pa sut y maent. 37A Barnabas a fynnai gymmeryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a elwir Marc; 38ond Paul ni welai yn dda gymmeryd hwnw gyda hwynt, yr hwn a dynnasai oddi wrthynt o Pamphulia, 39ac nad aethai gyda hwynt i’r gwaith. A bu cynhen fel yr ymwahanasant oddi wrth eu gilydd, ac y bu Barnabas, wedi cymmeryd Marc atto, fordwyo i Cuprus; 40a Paul, wedi dewis Silas, a aeth allan, wedi ei orchymyn i ras yr Arglwydd, 41gan y brodyr, a thramwyodd trwy Suria a Cilicia, gan gadarnhau yr eglwysi.

Actualmente seleccionado:

Yr Actau 15: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión