Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Yr Actau 14

14
1A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i sunagog yr Iwddewon, a llefaru felly fel y credodd lliaws mawr o Iwddewon ac o Roegwyr hefyd; 2ond yr Iwddewon anghrediniol a gyffroisant ac a ddrwg-ddylanwadasant feddyliau’r cenhedloedd yn erbyn y brodyr. 3Amser maith, gan hyny, yr arhosasant yno, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr Hwn a dystiolaethai i Air Ei ras, gan roddi i arwyddion a rhyfeddodau eu gwneuthur trwy eu dwylaw hwynt. 4A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda’r Iwddewon, a rhai gyda’r apostolion. 5A phan wnaethpwyd rhuthr o’r cenhedloedd ac o’r Iwddewon ynghyda’u pennaethiaid, i’w sarhau hwynt ac i’w llabyddio: 6gan wybod hyn, ffoisant i ddinasoedd Lucaonia a Derbe, 7ac i’r wlad oddi amgylch; ac yno yr oeddynt yn efengylu.
8Ac rhyw ddyn yn Lustra yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, dyn cloff o groth ei fam, yr hwn ni rodiasai erioed. 9Hwn a glybu Paul yn llefaru; yr hwn, wedi edrych yn graff arno, 10a gweled fod ganddo ffydd i’w iachau, a ddywedodd â llais uchel, Saf ar dy draed yn syth; a neidiodd efe, a rhodiodd. 11A’r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu lleisiau, gan ddywedyd yn iaith Lucaonia, Y duwiau, wedi eu cyffelybu i ddynion, 12a ddisgynasant attom; a galwasant Barnabas “Iwpeter,” a Paul “Mercurius,” gan mai efe oedd yr ymadroddwr pennaf. 13Ac offeiriad teml Iwpiter, yr hon sydd o flaen y ddinas, wedi dyfod â theirw a garlandau at y pyrth, a ewyllysiai, ynghyda’r torfeydd, aberthu. 14Ac wedi clywed hyn, yr apostolion, Barnabas a Paul, gan rwygo eu cochlau, 15a neidiasant allan ymhlith y dyrfa, dan waeddi, a dywedyd, Dynion, paham mai’r pethau hyn a wnewch? Ninnau hefyd, yn dioddef cyffelyb bethau a chwychwi yr ydym, yn ddynion, ac yn efengylu i chwi droi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw, yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a’r holl bethau y sydd ynddynt: 16yr Hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a adawodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain: 17ond er hyny, nid heb dystiolaeth y gadawodd Efe Ef ei hun, gan wneuthur daioni, a rhoddi o’r nef i chwi wlawodydd a thymhorau ffrwythlon, a llenwi eich calonnau â lluniaeth a llawenydd. 18A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd y gwnaethant i’r torfeydd beidio ag aberthu iddynt.
19A daeth yno Iwddewon, o Antiochia ac Iconium; ac wedi perswadio’r torfeydd a llabyddio Paul, llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw. 20A’r disgyblion wedi ei amgylchu ef, wedi cyfodi yr aeth i mewn i’r ddinas; a thrannoeth yr aeth allan ynghyda Barnabas i Derbe. 21Ac wedi efengylu i’r ddinas honno, a gwneuthur disgyblion lawer, dychwelasant i Lustra ac i Iconium ac i Antiochia, 22gan gadarnhau eneidiau y disgyblion, gan gynghori iddynt aros yn y ffydd, a dweud mai trwy lawer o orthrymderau y mae rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw. 23Ac wedi dewis iddynt henuriaid ym mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghydag ymprydiau, gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yn yr Hwn y credasant. 24Ac wedi tramwy trwy Pisidia, daethant i Pamphulia; 25ac wedi llefaru y Gair yn Perga, daethant i wared i Attalea; 26ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, o’r hon y gorchymynasid hwynt i ras Duw i’r gwaith a gyflawnasant. 27Ac wedi dyfod a chasglu’r eglwys ynghyd, mynegasant faint o bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac yr agorodd Efe i’r cenhedloedd ddrws ffydd. 28Ac arhosasant amser nid bychan ynghyda’r disgyblion.

Actualmente seleccionado:

Yr Actau 14: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión