Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Yr Actau 16

16
1A daeth efe hefyd i Derbe ac i Lustra; ac wele, rhyw ddisgybl oedd yno, a’i enw Timothëus, mab i wraig o Iwddewes, 2yr hon a gredai, ond ei dad oedd Roegwr: ac iddo y tystiolaethid gan y brodyr yn Lustra ac Iconium. 3Hwn yr ewyllysiodd Paul iddo fyned allan gydag ef; ac, wedi ei gymmeryd, amdorrodd arno o achos yr Iwddewon oedd yn y lleoedd hyny, canys gwyddent, bawb o honynt, mai Groegwr oedd ei dad ef. 4Ac fel yr ymdeithient trwy’r dinasoedd, traddodasant iddynt y dedfrydau i’w cadw, y rhai a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Ierwshalem. 5Yr eglwysi, gan hyny, a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynnyddasant mewn rhifedi beunydd.
6A thramwyasant trwy Phrugia a gwlad Galatia, wedi eu rhwystro gan yr Yspryd Glân rhag llefaru’r Gair yn Asia; 7ac wedi dyfod cyferbyn â Musia ceisient fyned i Bithunia; ac ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt. 8Ac wedi myned heibio i Musia, daethant i wared i Troas. 9A gweledigaeth, liw nos, a ymddangosodd i Paul: rhyw ŵr o Macedonia oedd yn sefyll ac yn deisyfu arno, ac yn dywedyd, Wedi dyfod trosodd i Macedonia, cymmorth ni. 10A phan welsai efe y weledigaeth, yn uniawn y ceisiasom fyned i Macedonia, 11gan gasglu alw o’r Arglwydd arnom i efengylu iddynt.
12Gan hwylio ymaith, gan hyny, o Troas, cyrchasom yn uniawn i Samothracia, a thrannoeth i Nea Polis, ac oddi yno i Philippi, yr hon yw brif-ddinas yr ardal, dinas o Macedonia, trefedigaeth Rufeinig; 13ac yr oeddym ynddi, yn aros ddyddiau rai. Ac ar y dydd Sabbath, aethom allan tu allan i’r porth i lan afon, lle y tybiem yr oedd lle gweddi, 14ac wedi eistedd o honom llefarasom wrth y gwragedd a ddaethent ynghyd. A rhyw wraig a’i henw Ludia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thuateira, un yn addoli Duw, a wrandawai; 15a’r Arglwydd a agorodd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. A phan fedyddiwyd hi ac ei theulu, deisyfiodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod yn ffyddlawn i’r Arglwydd, 16wedi dyfod i mewn i’m tŷ, arhoswch yno; a chymhellodd ni.
A digwyddodd wrth fyned o honom i’r lle gweddi, i ryw langces, yr hon oedd a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod â ni, yr hon a ddygai ennill mawr i’w meistriaid, trwy ddewinio. 17Hon, gan ganlyn Paul a ni, a waeddai, gan ddywedyd, Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, y rhai sy’n mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth. 18A hyn a wnelai hi lawer o ddyddiau. A Paul yn flin ganddo, a chan droi, a ddywedodd wrth yr yspryd, Gorchymynaf i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi; ac allan y daeth efe yr awr honno.
19A chan weled o’i meistriaid yr aethai gobaith eu hennill ymaith, wedi cymmeryd gafael ar Paul a Silas, llusgasant hwynt i’r farchnadfa ger bron y llywodraethwyr; 20ac wedi eu dwyn hwynt at y swyddogion, dywedasant, Y dynion hyn sy’n cythryblu ein dinas, 21a hwy yn Iwddewon, a mynegant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlawn i ni eu derbyn na’u gwneuthur, gan mai Rhufeinwyr ydym. 22A chyfododd y dyrfa ynghyd yn eu herbyn hwynt, a’r swyddogion, wedi rhwygo eu cochlau, a orchymynasant eu curo hwy â gwiail. 23Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialennodiau, taflasant hwynt i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddiogel; 24ac efe, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwynt i’r lle mwyaf i mewn o’r carchar, ac eu traed a wnaeth efe yn sicr yn y cyffion. 25A thua hanner nos, Paul a Silas, yn gweddïo, a ganent hymnau i Dduw, a gwrando arnynt yr oedd y carcharorion; 26ac yn ddisymmwth daeargryn mawr a fu, fel y siglwyd seiliau’r carchardy; ac agorwyd, yn uniawn, y drysau oll, a rhwymau pawb a ddattodwyd. 27Ac wedi deffro o geidwad y carchar, a chan weled drysau’r carchar yn agored, wedi tynnu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied y diengasai y carcharorion. 28A llefain â llef uchel a wnaeth Paul, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwaid, canys yr oll o honom ydym yma. 29Ac wedi galw am oleu, neidiodd efe i mewn, a than grynu, syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas; 30ac wedi eu dwyn hwynt allan, dywedodd, Meistriaid, pa beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig? 31A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi, ti a’th dŷ. 32A llefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyda phawb oedd yn ei dŷ. 33Ac wedi eu cymmeryd yr awr honno o’r nos, golchodd eu briwiau; a bedyddiwyd ef a’r eiddo oll yn y man. 34Ac wedi eu dwyn hwynt i’w dŷ, gosododd fwyd ger eu bron, a gorfoleddodd ynghyda’i holl deulu, gan gredu yn Nuw.
35A’r dydd wedi dyfod danfonodd y swyddogion y rhingyllau, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyny; 36a mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Paul, gan ddywedyd, Danfonodd y swyddogion am eich gollwng yn rhyddion: yn awr, gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch. 37A Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi ein curo ni yn gyhoedd, heb ein condemnio, a ninnau yn Rhufeinwyr, bwriasant ni i garchar; ac yn awr, ai yn ddirgel y bwriant ni allan? Nid felly; eithr wedi dyfod eu hunain, bydded iddynt ein dwyn ni allan. 38A mynegodd y rhingyllau wrth y swyddogion y geiriau hyn; 39ac ofnasant hwy, pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt; ac wedi dyfod, deisyfiasant arnynt; ac wedi eu dwyn allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o’r ddinas. 40Ac wedi myned allan o’r carchar, aethant i mewn at Ludia; ac wedi gweled y brodyr, cysurasant hwynt, ac aethant allan.

Actualmente seleccionado:

Yr Actau 16: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión