Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

I. Corinthiaid 3

3
1Ac myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych fel rhai ysprydol, eithr fel rhai cnawdol, fel babanod yng Nghrist. 2A llaeth y diodais chwi, nid bwyd a roddais, canys ni allech etto ei dderbyn; 3eithr hyd yn oed yr awrhon ni ellwch, canys etto cnawdol ydych, canys lle y mae yn eich plith eiddigedd a chynnen, onid cnawdol ydych, ac yn ol dyn yr ydych yn rhodio? 4Canys pan ddywaid neb, Myfi wyf o Paul; ac arall, Myfi wyf o Apolos, onid dynion ydych? 5Pa beth, gan hyny, yw Apolos? A pha beth yw Paul? Gweinidogion, trwy y rhai y credasoch, ac fel y bu i’r Arglwydd roi i bob un. 6Myfi a blennais; Apolos a ddyfrhaodd; eithr Duw a roddes y cynnydd. 7Felly, nid yw’r hwn sy’n plannu yn ddim, nac yr hwn sy’n dyfrhau, eithr yr Hwn sy’n rhoddi’r cynnydd, sef Duw. 8Ac yr hwn sy’n plannu a’r hwn sy’n dyfrhau, un peth ydynt; a phob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun; 9canys cydweithwyr Duw ydym; amaethyddiaeth Duw, adeiladaeth Duw ydych.
10Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen-saer doeth y sylfaen a roddais, ac arall sy’n adeiladu arno; a bydded i bob un edrych pa wedd y mae yn adeiladu arno; 11canys sylfaen arall nid oes neb fedr ei osod heblaw yr hwn a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. 12Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, 13gwair, sofl, gwaith pob un a wneir yn amlwg, canys y dydd a’i heglura, canys â thân y datguddir ef; a gwaith pob un, o ba fath y mae, y tân a’i prawf. 14Os gwaith neb a erys, yr hwn a adeiladodd efe, gwobr a dderbyn efe; 15os gwaith neb a losgir, colled a gaiff efe; ond efe ei hun a achubir, ond felly fel trwy dân.
16Oni wyddoch mai teml Dduw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch? 17Os teml Dduw a ddistrywia dyn, hwnw a ddistrywia Duw; canys teml Dduw, sanctaidd yw, yr hon ydych chwi.
18Na fydded i neb dwyllo ei hun. Os yw neb yn meddwl ei fod yn ddoeth yn eich plith yn y byd hwn, aed yn ffol fel yr elo yn ddoeth; 19canys doethineb y byd hwn, ffolineb yw gyda Duw, canys ysgrifenwyd,
“Yr Hwn sy’n dal y doethion yn eu callineb.”
20Ac etto,
“Iehofah a ŵyr feddyliau’r doethion, eu bod yn ofer.”
21Felly na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth, yr eiddoch chwi ydynt; 22pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Cephas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; yr oll ydynt eiddoch chwi, 23a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.

Actualmente seleccionado:

I. Corinthiaid 3: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión