Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

I. Corinthiaid 4

4
1Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist, a disdeiniaid dirgeledigaethau Duw. 2Yma, ym mhellach, y gofynir yn y disdeiniaid mai ffyddlawn y ceir neb. 3Ond genyf fi peth o’r lleiaf yw fy marnu genych chwi, neu gan farn ddynol. 4Eithr nid wyf yn barnu mi fy hun, canys nid oes dim a wn yn fy erbyn fy hun; eithr nid gan hyn y’m cyfiawnhawyd; ond yr Hwn sydd yn fy marnu, yr Arglwydd yw. 5Felly, cyn yr amser na fernwch ddim, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr Hwn a ddwg i’r goleuni guddiedig bethau y tywyllwch, ac a amlyga gynghorau y calonnau; ac yna ei fawl fydd i bob dyn oddiwrth Dduw.
6A’r pethau hyn, frodyr, a droais mewn ffigr attaf fy hun ac Apolos, er eich mwyn, fel ynom ni y dysgoch beidio a myned tu hwnt i’r pethau a ysgrifenwyd, fel na bo i’r naill ymchwyddo dros y llall, yn erbyn y llall. 7Canys pwy sydd yn dy wneuthur di yn wahanol? A pha beth sydd genyt na dderbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti, fel pe bait heb dderbyn? 8Eisoes y’ch diwallwyd; eisoes goludog ydych; hebddom ni y teyrnasasoch. Ac O na baech yn teyrnasu, fel y byddai i ninnau hefyd gyd-deyrnasu gyda chwi! 9Canys tybiaf y bu i Dduw ein dangos ni, yr apostolion, yn ddiweddaf, megis wedi ein bwrw i angau, canys gwnaethpwyd ni yn ddrych i’r byd, ac i angylion, ac i ddynion. 10Nyni, ffyliaid ydym er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn ogoneddus, a ninnau yn ddianrhydedd. 11Hyd yr awrhon newyn sydd arnom a syched, a noethion ydym, ac yn cael ein cernodio, ac heb drigfa sefydlog genym; 12ac yn llafurio gan weithio â’n dwylaw ein hunain; pan yn cael ein gwatwar, bendithio yr ydym; 13pan yn cael ein herlid, dioddef yr ydym; pan yn cael ein cablu, attolygu yr ydym; fel budreddi’r byd y’n gwnaed, a sorod pob peth hyd yn hyn.
14Nid gan eich gwaradwyddo yr wyf yn ysgrifenu y pethau hyn; eithr megis fy mhlant anwyl, eich cynghori yr wyf; 15canys er i ddeng mil o hyfforddwyr fod genych yng Nghrist, er hyny, nid llawer o dadau sydd, canys yn Iesu Grist, 16trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlais; attolygaf i chwi, gan hyny, byddwch efelychwyr i mi. 17O achos hyn y danfonais attoch Timothëus, yr hwn yw fy mab anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd y sydd yng Nghrist, y modd ymhob man, ymhob eglwys, yr wyf yn dysgu. 18Fel pe bawn i ddim yn dyfod attoch, yr ymchwyddodd rhai; 19ond deuaf ar fyrder attoch, os yr Arglwydd a’i myn; a gwybyddaf nid ymadrodd y rhai sy wedi chwyddo, 20eithr eu gallu, canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu. 21Pa beth a ewyllysiwch? Ai â gwialen i mi ddyfod attoch; neu mewn cariad ac yspryd addfwyn?

Actualmente seleccionado:

I. Corinthiaid 4: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión