Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

I. Corinthiaid 2

2
1Ac myfi, pan ddaethum attoch, frodyr, a ddaethum, nid â rhagoroldeb ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi ddirgelwch Duw, 2canys penderfynais na wyddwn ddim yn eich plith oddieithr Iesu Grist, ac Ef yn groes-hoeliedig. 3Ac myfi, mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr yr oeddwn yn eich plith; 4ac fy ymadrodd a’m pregethiad nid oeddynt yng ngeiriau darbwyllus doethineb, 5eithr yn arddangosiad yr Yspryd a gallu, fel y byddai eich ffydd, nid yn noethineb dynion, eithr yn ngallu Duw.
6Ond doethineb a lefarwn ym mhlith y rhai perffaith; ond doethineb nid o eiddo y byd hwn, nac o eiddo llywodraethwyr y byd hwn y rhai sy’n myned yn ddiddym; 7eithr llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch yr ydym, yr hwn oedd guddiedig, yr hwn a rag-ordeiniodd Duw cyn na’r oesoedd i’n gogoniant ni; 8yr hwn ni fu i undyn o lywodraethwyr y byd hwn ei adnabod; canys pes adwaenasent, Arglwydd y gogoniant ni chroes-hoeliasent. 9Eithr fel yr ysgrifenwyd,
“Y pethau na fu i lygad eu gweled, a chlust ni chlywodd,
Ac i galon dyn nad esgynasant,
Cynnifer bethau ag a barottodd Duw i’r rhai sydd yn Ei garu;”
10ond i nyni y datguddiodd Duw hwynt trwy’r Yspryd; canys yr Yspryd a chwilia bob peth, hyd yn oed ddyfnderau Duw. 11Canys pwy o ddynion a ŵyr bethau dyn, oddieithr yspryd dyn, yr hwn sydd ynddo? Felly, pethau Duw hefyd, nid oes neb a’u gŵyr oddieithr Yspryd Duw. 12Ond nyni, nid yspryd y byd a dderbyniasom, eithr yr Yspryd y sydd oddiwrth Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni: 13y rhai hefyd a lefarwn, nid mewn geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, eithr a ddysgwyd gan yr Yspryd, gan gydmaru pethau ysprydol â phethau ysprydol. 14Ond y dyn anianol ni dderbyn bethau Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni all eu gwybod, gan mai yn ysprydol y bernir hwynt. 15Ond y dyn ysprydol a farn bob peth; ond ef ei hun ni fernir gan undyn. 16Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a’i cyfarwydda Ef? Ond nyni sydd a chenym feddwl Crist.

Actualmente seleccionado:

I. Corinthiaid 2: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión