Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

I. Corinthiaid 1

1
1Paul, apostol galwedig gan Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, 2a Sosthenes, y brawd, at eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyda phawb y sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ymhob man, eu Harglwydd hwy a ninnau. 3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad, a Thad yr Harglwydd Iesu Grist.
4Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser o’ch herwydd am y gras Duw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu, 5am mai ymhob peth y’ch cyfoethogwyd chwi Ynddo Ef, ymhob ymadrodd a phob gwybodaeth, 6fel y bu i ddirgelwch Crist ei gadarnhau ynoch; 7fel nad ydych ar ol mewn un dawn, 8yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd, yr Hwn a’ch cadarnha hefyd hyd y diwedd yn ddiargyhoedd yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9Ffyddlawn yw Duw, trwy’r Hwn y’ch galwyd i gymdeithas Ei Fab Iesu Grist ein Harglwydd.
10Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, y bo i’r un peth gael ei lefaru genych oll, ac na bo yn eich plith sismau, ond bod o honoch wedi eich perffeithio yn yr un meddwl, 11ac yn yr un farn: canys amlygwyd i mi am danoch, fy mrodyr, gan y rhai o dŷ Chloe, 12mai cynhennau sydd yn eich plith; a hyn yw fy meddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi wyf o Paul; ac, Myfi o Apolos; ac, Myfi o Cephas; ac, Myfi o Grist. 13A rannwyd Crist? Ai Paul a groes-hoeliwyd trosoch? Ai i enw Paul y’ch bedyddiwyd? 14Diolch yr wyf i Dduw nad oes un o honoch a fedyddiais oddieithr Crispus a Gaius; 15fel na fo i neb ddweud mai i fy enw i y’ch bedyddiwyd. 16A bedyddiais hefyd dylwyth Stephanus. Heblaw hyny, 17nis gwn a oes neb arall a fedyddiais, canys ni ddanfonodd Crist fi i fedyddio, eithr i efengylu — nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wagheid croes Crist.
18Canys ymadrodd y groes, i’r rhai sy’n myned ar goll, ffolineb yw; ond i ni y sy’n cael ein hachub, gallu Duw yw, 19canys ysgrifenwyd,
“Difethaf ddoethineb y doethion,
A deall y rhai deallus a ddiddymaf.”
20Pa le y mae’r doeth? Pa le y mae’r ysgrifenydd? Pa le y mae dadleuwr y byd hwn? Onid yn ynfydrwydd y trodd Duw ddoethineb y byd? 21Canys pan yn noethineb Duw, nad adnabu y byd, trwy ei ddoethineb, mo Dduw, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb y pregethu gadw y rhai sy’n credu; 22canys yr Iwddewon, arwydd a ofynant; a’r Groegwyr, doethineb a geisiant; 23ond nyni ydym yn pregethu Iesu Grist wedi Ei groes-hoelio, i’r Iwddewon yn dramgwydd, ac i’r cenhedloedd yn ffolineb; 24ond iddynt hwy a alwyd, Iwddewon a Groegwyr hefyd, Crist gallu Duw a doethineb Duw: 25canys ffolineb Duw, doethach na dynion yw; a gwendid Duw, cryfach na dynion yw.
26Canys edrychwch eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o alluogion, nad llawer o foneddigion a alwyd; 27eithr ffol-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y doethion; a gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y pethau cedyrn; 28a phethau difonedd y byd, a’r pethau dirmygus, a etholodd Duw; 29a’r pethau nad ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw. 30Ac o Hono Ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaed i ni yn ddoethineb oddiwrth Dduw, ac yn gyfiawnder, 31ac yn sancteiddiad, ac yn brynedigaeth, er mwyn, fel yr ysgrifenwyd,
“Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied.”

Actualmente seleccionado:

I. Corinthiaid 1: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión