YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 9

9
PEN. IX.
1 Crist yn iachau’r parlys, 9 yn galw Mathew, 18 yn cyfodi merch y capten, 20 yn iachau’r wraig o’r haint gwaed, 28 yn rhoddi i ddau ddall eu golwg, 32 ac i fudan leferydd, 37 Ac yn ystyried y cynhaiaf a’r cynhaiaf-wyr.
1 # 9.1-8 ☞ Yr Efengyl y xix. Sul ar ôl y Drindod. Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth iw ddinas ei hun.
2Ac #Marc.2.3. Luc.5.18.wele, hwy a ddygasant atto ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely, a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, ha fâb cymmer gyssur, maddeuwyd i ti dy bechodau.
3Ac wele, rhai o’r scrifennyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, y mae hwn yn cablu.
4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, y dywedodd, pa ham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?
5Canys pa vn hawsaf, ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, cyfot a rhodia?
6Eithr fel y gwypoch fod meddiant i Fâb y dŷn ar y ddaiar i faddeu pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys) cyfot, cymmer dy welŷ, a dôs i’th dŷ.
7Ac efe a gyfodes, ag a aeth ymmaith iw dŷ ei hun.
8Felly pan welodd y dyrfa, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roese gyfryw awdurdod i ddynion.
9 # 9.9-13 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Fathew. Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, #Marc.2.14. Luc.5.27.efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa yr hwn a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, canlyn fi, ac efe a gyfodes, ac a’i canlynodd.
10Ac fe ddarfu a’r [Iesu] yn eistedd i fwytta yn nhŷ [hwnnw,] wele, publicanod lawer a phecaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd â’r Iesu a’i ddiscyblion.
11A phan welodd y Pharisæaid [hynny] hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef: pa ham y bwytu eich Athro chwi gyd a’r Publicanod a’r pechaduriaid?
12A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, nid rhaid i’r rhai iach wrth feddig, ond i’r rhai cleifion.
13Ond, ewch, a dyscwch pa beth yw [hyn,] #Ose.6.7. Math.12.7.trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ag nid aberth: canys ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond y #1.Tim.1.15.pechaduriaid i edifeirwch.
14Yna #Mar.2.18. Luc.5.33.y daeth discyblion Ioan atto, gan ddywedyd, pa ham yr ydym ni a’r Pharisæaid yn ymprydio llawer, a’th ddiscyblion di heb ymprydio?
15A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a all plant priod-fab alaru tra fo y priod-fab gyd â hwynt? ond y dyddiau a ddeuant pan ddyger y priod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
16Hefyd ni rydd neb lain o frethyn cri mewn hên wisc: canys yr anghwanegiad a dynn [beth] oddi wrth y wisc, a’r rhwygfa fydd yn waeth.
17Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hên: canys felly y torre y costrelau, ac a gollyngid y gwin allan, ac y collid y costrelau: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newydd, ac [felly] y cedwir y ddau.
18 # 9.18-26 ☞ Yr Efengyl y pedwerydd sul ar hugain ar ôl y Drindod. Tra yr oedd #Marc.5.22. Luc.8.41.efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, fe a fu farw fy merch yr awr hon, eithr tyret a gosot dy law arni, a byw fydd hi.
19A’r Iesu a godes, ac a’i canlynodd ef, a’i ddiscyblion.
20Ac wele wraig yr hon y buase gwaed-lif arni ddeuddeng mhlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef.
21Canys hi a ddywedase ynddi ei hun, os gallaf gyffwrdd â’i wisc ef yn vnic, iach fyddaf.
22Yna’r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, a ddywedodd, ha ferch bydd gyssurus, dy ffydd a’th iachaodd, a’r wraig a iachawyd o’r awr honno allan.
23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfyscu,
24Efe a ddywedodd wrthynt, ewch ymmaith, can nad marw’r llangces, onid cyscu y mae hi: ac hwynt a’i gwatwarasant ef.
25Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a’r llangces a gyfodes.
26A’r gair o hyn a aeth tros yr holl dîr hwnnw.
27Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion ai canlynasant ef gan lefain a dywedyd, Mâb Dafydd trugarhâ wrthym.
28Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant atto, a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallafi wneuthur hyn? Ac hwy a ddywedasant wrtho, ydym Arglwydd.
29Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid, gan ddywedyd: yn ôl eich ffydd bydded i chwi.
30A’u llygaid a agorwyd, a’r Iesu a orchymynnodd iddynt tann fygwth gan ddywedyd, gwelwch na’s gwypo neb.
31Onid wedi iddynt ymado, hwy ai clodforasant ef trwy’r tîr hwnnw.
32Ac hwynt yn myned allan, wele, [rai] #Math.12.22. Luc.11.14.yn dwyn atto fudan a chythrael ynddo.
33Ac wedi bwrw y cythrael o honaw, llefarodd y mudan, a rhyfeddodd y dyrfa, gan ddywedyd, ni welwyd y cyffelyb er ioed yn Israel.
34A’r Pharisæaid a ddywedasant, trwy #Math.12.24. Mar.3.22. Luc.11.15.bennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
35A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl #Mar.6.5. Luc.13.23.ddinasoedd, a’r trefydd gan ddyscu yn eu Sinagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd, a phob afiechyd ym mhlith y bobloedd.
36A #Mar.6.34.phan welodd efe y dyrfa, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwascaru fel defaid heb iddynt fugail.
37Yna y dywedoddd efe wrth ei ddiscyblion, y #Luc 10.2. Ioh.4.36cynhaiaf yn ddiau sydd fawr, a’r gweith-wŷr yn anaml.
38Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaiaf, yrru gweith-wŷr iw gynhaiaf.

Currently Selected:

Mathew 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in