Mathew 10
10
PEN. X.
Crist yn rhoddi iw Apostlion awdurdod i iachau clefydau, ac i bregethu yr Efengyl, 13 Gan rybuddio pa lwyddiant a pha flinder a gaent hwy, 22 a chan eu hannog i barhau yn ddioddefgar, 24 am i Grist ddioddef yn gyntaf, 30 am fod Duw yn gofalu trosom fel na wnelo ein dioddefaint niwed, 37 am y dylem garu Duw yn fwy nâ dim bydol, 39 Ac am fod yn fuddiol dioddef hyd farwolaeth er mwyn Crist, 40 Ac yn ddiweddaf y mae yn annog i dderbyn a mawrhau pregeth-wyr.
1Ac efe a alwodd ei ddeuddec discybl atto, ac a #Mar 3.13. Luc.9.1.roddes iddynt allu yn erbyn ysprydion aflan, iw bwrw hwy allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.
2A henwau y deuddec Apostol yw y rhai hyn: y cyntaf, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, Iaco [mâb] Zebedeus, ac Ioan ei frawd:
3Philip, a Bartholomeus: Thomas, a Mathew y publican: Iaco [mâb] Alpheus, a Lebbeus yr hwn a gyfenwid Thadeus:
4Simon y Canaanead, ac Iudas Iscariot yr hwn hefyd ai bradychodd ef.
5Y deuddec hyn a yrrodd yr Iesu ymmaith, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, nac ewch i ffordd y cenhedloedd, ac na ddeuwch i ddinasoedd y Samariaid.
6Eithr ewch yn hytrach at #Act.13.46.gyfrgolledic ddefaid tŷ Israel.
7Ac wrth fyned pregethwch gan ddywedyd, #Luc.10.9.fod teyrnas nefoedd yn agos.
8Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbynniasoch yn rhâd, rhoddwch yn rhâd.
9Na #Marc.6.8. Luc.9.3.feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau.
10Nac screpan i’r daith, na dwy bais, nac escidiau, na ffonn: canys #1.Tim.5.18. Luc.10.7.teilwng i’r gweithiwr ei fwyd.
11Ac #Luc 10.8.i ba ddinas bynnac neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd addas ynddi, ac yno trigwch, hyd onid eloch ymmaith.
12A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch iddo gan ddywedyd, tangneddyf i’r tŷ hwn.
13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangneddyf arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangneddyf attoch.
14A phwy #Mar.6.11. Luc.9.5.bynnac ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, #Act.13.51.escytwch y llwch oddi wrth eich traed.
15Yn wir meddaf i chwi, esmwythach i dir y Sodomiaid, a Gomorriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.
16Wele #Luc.20.3.yr ydwyfi yn eich danfon fel defaid ym mysc bleiddiaid: byddwch am hynny mor gall â seirph, ac mor ddiniwed a cholomennod.
17Eithr ymogelwch rhag dynion, canys hwy a’ch rhoddant chwi i fynu i’r cyngor, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu Synagogau.
18A chwi a ddygir at raglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er testiolaeth iddyn, ac i’r cenhedloedd.
19Eithr pan #Mar.13.11. Luc.12.15.i’ch rhoddant chwi i fynu, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch.
20Canys nid chwy-chwi yw’r rhai sy yn llefaru, onid Yspryd eich Tâd yr hwn sydd yn llefaru ynoch.
21A’r #Luc.21.16.brawd a fradycha’r brawd i farwolaeth, a’r tâd y mab, a’r plant a godant i yn erbyn eu tâd a’u mam, ac a barant eu marwolaeth hwynt.
22A châs fyddwch gan bawb er mwyn fy enw: #Mar.13.13. Luc.21.19ond yr hwn a barhauo hyd y diwedd, efe fydd cadwedic.
23A phan i’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffoiwch i vn arall: canys yn wîr y dywedaf wrthych, na orphennwch [holl] ddinasoedd Israel nês dyfod Mâb y dŷn.
24Nid #Luc.6.48. Ioh.13.16yw’r discybl yn vwch nâ’i athro, na’r gwâs yn vwch na ei arglwydd.
25Digon i’r discybl fôd fel ei athro, a’r gwâs fel ei arglwydd: #Math.12.24os galwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy [y galwant] ei dŷ-lwyth ef?
26Am hynny nac ofnwch hwy, #Mar.4.22. Luc.8.17. & 12.2.o blegit nid oes dim cuddiedic a’r nas datcuddir, na dim dirgel a’r na ddaw i ŵybodaeth.
27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn eich clust pregethwch ar [ben] y tai.
28Ac nac ofnwch y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid, eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddestruwio yr enaid gyd â’r corph yn vffern.
29Oni werthir dau aderyn y tô er ffyrling? ac ni syrth yr vn o honynt i’r llawr heb eich Tâd chwi.
30Ac y mae hefyd eich #2.Sam.14.11. Act.27.34.holl wallt wedi eu cyfrif.
31Nac ofnwch gan hynny, chwi a dêlwch fwy nâ llawer o adar y tô.
32Pwy #Mar.8.38. Luc.9.26. 2.Tim.2.12.bynnac gan hynny a’m cyffesa fi yng-ŵydd dynion, minnef ai cyffesaf yntef yng-ŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
33A phwy bynnagc a’m gwado i yng-ŵydd dynion, minnef a’i gwadaf yntef yng-ŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
34Na #Luc.12.51.thybygwch fy nyfod i ddanfon tangneddyf ar y ddaiar: ni ddaethym i ddanfon tangneddyf, onid cleddyf.
35Canys mi #Miche.7.6.a ddaethym fel yr ymryfaelie dŷn yn erbyn ei dâd, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr.
36A gelynnion dŷn fydd tŷ-lwyth ei dŷ ei hun.
37Yr #Luc.14.26.hwn sydd yn caru tâd neu fam yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi, a’r neb sydd yn caru mâb neu ferch yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi.
38A’r #Math.16.24. Marc.8.34. Luc.9.23.hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ag yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng o honofi.
39Y #Ioh.12.25.neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollodd ei einioes o’m plegit i, a’i caiff hi.
40Y #Luc.10.16. Ioh.13.20.neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i: a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.
41Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr prophwyd, a’r neb sydd yn derbyn [vn] cyfiawn yn enw [vn] cyfiawn, a dderbyn wobr [vn] cyfiawn.
42A #Marc.9.41.phwy bynnac a roddo i’r vn o’r rhai bychain hyn phioled o [ddwfr] oer yn vnic yn enw discybl, yn wîr y dywedaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.
Currently Selected:
Mathew 10: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.