YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 8

8
PEN. VIII.
Crist yn iachau dyn gwahan-glwyfus. 5 Ffydd y capten, 11 Galwedigaeth y cenhedloedd, 14 Iachau chwegr Petr, sef mam ei wraig ef. 19 Y gwr llên a ewyllysie ddilyn Crist. 23 efe yn llonyddu yr môr a’r gwynt. 28 Ac yn gyrru cythreuliaid allan o ddau ddyn ddiefylic i’r genfaint foch.
1 # 8.1-13 ☞ Yr Efengyl y trydydd dydd Sul ar ôl yr ystwyll. AC wedi ei ddyfod ef i wared o’r mynydd, llawer o bobloedd a’i dilynodd ef.
2Ac #Marc.1.49.(sic.) luc.5.12.wele, vn gwahan-glwyfus a aeth ac ai haddolodd ef, gan ddywedyd: Arglwydd, os mynni, ti a elli fyng-lanhau.
3A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef gan ddywedyd, mynnaf, glanhaer di: ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhauwyd.
4Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, gwêl na ddywedych wrth neb, eithr dos, ac ymdangos i’r offeiriad, ac offrymma y rhodd a orchymynnodd #Leuit.14.4.Moses, er tystiolaeth iddynt.
5 # Luc.7.1 Wedi dyfod yr Iesu i Capernaum y daeth atto ef Ganwriad, gan ddeisufu arno,
6A dywedyd, Arglwydd, y mae fyng-wâs yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr.
7A’r Iesu a ddywedodd wrtho ef, mi a’i hiachâf ef pan ddelwyf.
8A’r Canwriad a’i hattebodd ef gan ddywedyd, Arglwydd nid ydwyf deilwng i ddyfod o honot tann fyng-hronglwyd, eithr yn vnig dywet y gair, a’m gwâs a iacheir.
9Canys dŷn ydwyfi tann awdurdod, ac y mae gennif filwŷr tanaf, a dywedaf wrth hwn, cerdda, ac efe a aiff, ac wrth arall, tyret, ac efe a ddaw, ac wrth fyng-wâs, gwna hyn, ac efe a’i gwna.
10A’r Iesu wrth glywed hyn a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn canlyn, yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymmaint ffydd yn yr Israel.
11Ac yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewyn, ac a eisteddant gyd ag Abraham, Isaac, ac Iacob yn nheyrnas nefoedd.
12A #Math.22.13.phlant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf, yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.
13Yna y dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, dos ymmaith, a megis y credaist bydded i ti: a’i wâs a iachawyd yn yr awr honno.
14A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr #Mar 1.29. Luc.4.38.ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r crŷd.
15Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw, a’r crŷd a’i gadawodd hi, ac hi a gododd i fynu, ac a wnaeth wasanaeth iddynt hwy.
16Wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddugasant atto #Mar.1.32. Luc.4.40.ef lawer o rai cythreulic, ac efe a fwriodd allan yr ysprydion â’i air, ac efe a iachaodd yr holl gleifion,
17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd gan ddywedyd, #Esa.53.4. 1.Pet.2.24.efe a gymmerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
18A’r Iesu yn gweled torfeuydd lawer o’i amgylch a #Luc 9.57.orchymynnodd [iddynt] fyned trosodd i’r lann arall.
19A rhyw scrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnac yr elech.
20A’r Iesu a ddywedodd wrtho, y mae ffauau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
21Ac #Luc 9.59.vn arall o’i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd goddef i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhâd.
22A’r Iesu a ddywedodd wrtho, canlyn fi, a gâd i’r meirw gladdu eu meirw.
23 # 8.23-34 ☞ Yr Efengyl y pedwerydd Sul ar ol yr ystwyll. # Mar.4.35. Luc.8.22.Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddyscyblion a’i canlynasant ef.
24Ac wele, bu cynnwrf mawr a gyfodes yn y môr fel y cuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu.
25Yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, ô Arglwydd, cadw ni, darfu am danom ni.
26Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn ofnus ô chwi o ychydig ffydd? yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr, a bu dawelwch mawr.
27A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, pa ryw vn yw hwn, canys y gwyntoedd a’r môr ydynt yn vfyddhau iddo ef?
28Ac wedi #Mar.5.1. Luc.8.26.ei ddyfod ef i’r lann arall i wlâd y Gergesiaid, dau ddiefylic a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddaethent o’r monwentau yn dra creulon, fel na alle neb fyned y ffordd honno.
29Ac wele hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu fâb Duw beth sydd i ni (a wnelom) â thi? a ddaethost ti ymma i’n poeni cyn yr amser?
30Ac yr oedd ym mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pori.
31A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant, gan ddywedyd, os bwri ni allan, gad ti i ni fyned i’r genfaint fôch.
32Ac efe a ddywedodd, ewch, ac hwy gan fyned allan, a aethant i’r genfaint fôch: ac wele’r holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibin i’r mor, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.
33Yna y ffoawdd y meichiaid, ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth, a pha beth a ddarfuase i’r rhai yr oedd y cythreuliaid ynddynt.
34Ac wele’r holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadael o’i cyffiniau hwynt.

Currently Selected:

Mathew 8: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in