YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 7

7
PEN. VII.
1 Crist yn gwahardd barn ehud 6 a bwrw pethau sanctaidd i gwn. 13 Am y porth cyfyng, a’r vn ehang. 15 Am y gau brophwydi. 18 Y pren a’i ffrwyth. 24 Am y ty ar y graig, a’r ty ar y tyfod.
1 # Luc.6.37. Rhuf.2.1. Na fernwch, fel na’ch barner.
2Canys â #Mar.4.24.|MRK 4:24. Luc.6.38.pha farn y barnoch, i’ch bernir: ac â pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau trachefn.
3A pha ham y gweli di y brycheun sydd yn llygad dy frawd, ac na ddealli di y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
4 # Luc.6.41. Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, gâd ti i mi fwrw allan y brycheun o’th lygad, ac wele drawst yn dy lygad dy hun?
5Oh ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y canfyddi fwrw allan y brycheun o lygad dy frawd.
6Na roddwch y peth sydd sanctaidd i gŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen môch, rhag iddynt eu sathru dan draed, a throi trachefn a’ch llarpio chwi.
7 # Math.21.22. mar.11.24. luc.11.9. io.16.24. iac.1.6.Gofynnwch, a rhoddir i chwi, ceisiwch, ac chwi a gewch: curwch, ac fe agorir i chwi:
8Canys pwy bynnac a ofynno, a dderbyn: a’r neb a gais a gaiff: ac i hwn a guro’r agorir.
9Neu a oes vn dŷn o honoch yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo gareg?
10Neu os gofyn efe byscodyn, a ddyry efe sarph iddo?
11Os chwy-chwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo?
12Am hynny, #Luc.6.31.beth bynnac a ewyllysioch ei wneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw’r gyfraith a’r prophwydi.
13 # Luc.13.24. Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys ehang [yw]’r porth, a llydan [yw] y ffordd sydd yn arwain i ddestryw, a llaweroedd ydynt yn myned i mewn yno.
14O blegit cyfyng [yw’r] porth, a chûl yw’r ffordd yr hon sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig sydd yn ei chael hi,
15 # 7.15-21 ☞ Yr Efengyl yr wythfed Sul wedi ’r Drindod. Ymogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yng-wiscoedd defaid, onid oddi mewn bleiddiaid rheupus ydynt hwy.
16Wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt: #Luc.6.43.a gesclir grawn-win oddi ar ddrain, neu ffigus oddi ar yscall?
17Felly pob pren da a ddwg ffrwyth da, a phren drwg ffrwyth drwg.
18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren pwdr ddwyn ffrwythau da.
19 # Math.3.10. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir i’r tân.
20O herwydd pa ham, wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt.
21 # Rom2.13. Iam.1.22.Nid pwy bynnac a ddywed wrthif, Arglwydd Arglwydd, a ddaw i deyrnas nefoedd, ond yr hwn a wna ewyllys fy Nhâd yr hwn [sydd] yn y nefoedd.
22Llaweroedd a ddywedant wrthif yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di, ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di, ac oni wnaethom weithredoedd mawrion trwy dy enw di?
23 # Luc.13.27. psal.6.8. Ac yna yr addefaf iddynt, ni’s adnabum chwi er ioed, ewch ymmaith oddi wrthif, ô weithred-wŷr anwiredd.
24 # Luc.6.47. Pwy bynnac gan hynny a glywo gennif y geiriau hyn, ac a’u gwna, mi ai cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adailadodd ei dŷ ar graig:
25A’r glaw a ddescynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, am ei sylfaenu ar graig.
26A Ond pwy bynnac a glywo fyng-eiriau hyn, ac ni’s gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adailadodd ei dŷ ar dywod,
27A’r glaw a ddescynnodd, a’r llif-ddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant y tŷ hwnnw, ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.
28Ac fe ddarfu wedi i’r Iesu orphen y geiriau hyn, #Mar.1.22. luc.4.32synnu ar y dyrfa gan ei ddysc ef.
29Canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt fel vn ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr scrifennyddion.

Currently Selected:

Mathew 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in