YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 11

11
PEN. XI.
1 Crist yn pregethu, 2 Ioan yn anfon ei ddiscyblion at Grist. 21 dialedd Duw yn erbyn gwrandawyr anniolchgar, 25 a’r diolch a roddodd Crist am egluro o’r Tâd yr Efengyl i’r dynion gwirion.
1A darfu wedi gorphe o’r Iesu orchymyn iw ddeuddec Apostol, iddo ef fyned oddi yno i ddyscu a phregethu yn eu dinasoedd hwy.
2 # 11.2-10 ☞ Yr Efengyl y trydydd Sul yn Aduent. A phan glybu Ioan yng-harchar [am] weithredoedd Crist, efe a ddanfonodd ddau o’i ddiscyblion, #Luc.7.18.ac a ddywedodd wrtho,
3Ai tydi yw’r hwn a ddaw, ai disgwil yr ydym ni am arall?
4A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywsoch ac a welsoch.
5Y mae’r deillion yn gweled eil-waith, a’r cloffion yn rhodio: a’r cleiffon gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed: y mae y meirw yn cyfodi, #Esa.61.1. Esa.35.6.a’r tlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.
6A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir o’m plegit i.
7A hwy yn myned ymmaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y dyrfa am Ioan, pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych am dano? a’i corsen yn escwyd gan y gwynt?
8Eithr pa beth yr aethoch iw weled? ai dŷn wedi ei wisco â dillad esmwyth, wele, y rhai sy yn gwisco dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.
9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai prophwyd? îe, meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.
10Canys hwn ydyw y neb y mae yn scrifennedic am dano, #Malac.3.1.wele, yr ydwyf yn anfon fyng-hennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barotoa dy ffordd o’th flaen.
11Yn #Luc.7.28.wir meddaf i chwi, ym mlith plant gwragedd ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddi-wr, er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.
12 # Luc.16.16. Ac o amser Ioan Fedyddi-wr hyd hyd, y treisir teyrnas nefoedd, a threiswŷr sy yn myned â hi wrth nerth.
13Canys yr holl brophwydi a’r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan.
14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw #Malac.4.5.Elias yr hwn oedd ar ddyfod.
15Y neb sydd iddo glustiau i wrando gwrādawed.
16Eithr i ba beth y cyffelybafi y genhedlaeth hon? #Luc.7.31.cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,
17Ac yn dywedyd, canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: canasom alar-nad i chwi, ac ni chwynfanasoch.
18Canys daeth Ioan heb na bwytta nac yfed, ac meddant, y mae cythrael ganddo.
19Daeth Mâb y dyn yn bwytta ac yn yfed, ac meddant, wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid: a doethineb a gyfiawnhauwyd gan ei phlant ei hun.
20Yna #Luc.10.13.y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd, yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd mawrion ef, am nad edifarhausent.
21Gwae tydi Corazin: gwae tydi Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tirus a Sidon y gwrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhausent er ys talm mewn lliain sach a lludw.
22Eithr dywedaf i chwi, mai esmwythach fydd i Tirus a Sidon yn nydd y farn nag i chwi.
23A thydi Capernaum, yr hon a dderchefir hyd y nefoedd, a dynnir i lawr hyd yn vffern: canys pe gwnaethid yn Sodoma y gwrthiau a wnaethpwyd ynot ti, hwy a fuasent yn aros hyd heddyw.
24Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, mai esmwythach fydd i dîr Sodoma yn-nydd y farn, nag i ti.
25 # 11.25-30 ☞ Yr Efengyl ar ddydd S. Matthias. Yn yr amser hynny yr attebodd yr Iesu, ac efe a ddywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, ô Dad, Arglwydd nef a daiar, #Luc.10.22.am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a’r rhai call, ai dangos o honot i’r rhai bychain.
26Diau ô Dâd, mai felly y rhyngodd bodd i ti.
27 # Ioan.3.35. & 6.46. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac nid edwyn neb y Mâb, eithr y Tâd: ac nid edwyn neb y Tâd ond y Mâb: a’r hwn yr ewyllysio’r Mâb ei ddangos iddo.
28Dewch attafi bawb a’r y sydd yn flinderog, ac yn llwythog, ac mi a esmwythâf arnoch.
29Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, am fy mod yn fwyn, ac yn ostyngedic o galon: a chwi a #Ier.6.16.gewch orphywysdra i’ch eneidiau.
30Canys #1.Ioan.5.3.fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd yscafn.

Currently Selected:

Mathew 11: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in