YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 12

12
PEN. XII.
1 Y discyblion yn tynnu tywys yr yd. 10 Crist yn iachau’r llaw ddiffrwyth 22 Efe yn gwared y dall, mud, cythreulic, 25 Ac yn amddeffyn ei waith. 31 Am gablaeth yn erbyn yr Yspryd glân. 33 Y pren da, a’r drwg. 42 Y Ninefeaid a brenhines Saba yn siampl i’r Iddewon. 48 Gwir fam a brodyr Crist.
1Yr amser hynny #Marc.2.23. Luc 6.1.yr aeth yr Iesu ar y dydd Sabbath trwy’r ŷd, ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddiscyblion ef, ac hwy a ddechreuasant dynnu tywys yr ŷd, a bwytta.
2A phan welodd y Pharisæaid, y dywedasant wrtho, wele dy ddiscyblion yn gwneuthur yr hynn #Deut.23.25nid yw gyfraithlawn ei wneuthur ar y Sabboth.
3Ac efe a ddywedodd wrthynt, #1.Sam.21.5.oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd pan oedd arno newyn, a’r rhai oeddynt gyd ag ef?
4Fel y daeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr #Exod.29.33. Leuit.8.31. & 24.9.hwn nid oedd gyfraithlawn iddo ei fwytta, nac i’r rhai oeddynt gyd ag ef, onid yn vnic i’r offeiriaid?
5Neu, oni ddarllennasoch yn y gyfraith #Num.28.9.fôd yr offeiriaid ar y Sabboth yn y Deml yn torri yr Sabboth, a’u bôd yn ddiargyoedd?
6Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fod ymma vn mwy nâ’r Deml.
7Ond pe gŵyddech pa beth yw hyn, #Osea.6.6.trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.
8Canys Arglwydd ar y Sabboth yw Mâb y dŷn.
9Ac #Marc.3.1. Luc.6.6.efe a bassiodd oddi yno, ac a aeth iw Synagog hwynt.
10Ac wele, yr oedd yno ddŷn a’i law wedi diffrwytho: a hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, ai cyfraithlawn iachau ar y Sabboth? fel y gallent ei gyhuddo ef.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ddŷn o honoch fydd, ac iddo vn ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sabboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan?
12Pa faint gwell gan hynny ydyw dŷn nâ dafad? ac felly cyfraithlawn yw gwneuthur yn dda ar y Sabboth.
13Yna y dywedodd efe wrth y dŷn, estyn dy law, ac efe a’i hestynnodd: a hi a wnaed yn iach fel y llall.
14Yna’r aeth y Pharisæaid allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y gallent difetha ef.
15A phan wybu yr Iesu hynny, efe a giliodd oddi yno, a thyrfa fawr a’i dilynodd ef, ac efe a’u hiachâodd hwynt oll.
16Ac a orchymynnodd iddynt na chyhoeddent ef.
17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd:
18 # Esai.42.1 Wele fyng-wasanaeth-ŵr yr hwn a ddewisais, fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy Yspryd arno, ac efe a dengys farn i’r cenhedloedd.
19Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd?
20Ni thyrr efe gorsen yssig, ac ni ddiffydd efe lîn yn mygu, hyd oni ddygo farn i fuddugoliaeth.
21Ac yn ei enw ef y gobeithia y cenhedloedd.
22Yna #Math.9.32. Luc.11.14.y ducpwyd atto vn cythraelic, dall a mud, ac efe ai iachaodd ef, fel y llefarodd, ac y gwelodd yr hwn [a fuase] ddall a mud.
23A synnodd ar yr holl bobl, gan ddywedyd, onid hwn yw Mab Dafydd?
24Eithr pan glybu y Pharisæaid, hwy #Math.9.34. Mar.3.22. Luc.11.17.a ddywedasant, nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid onid trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid.
25A’r Iesu yn gŵybod eu meddyliau a ddywedodd wrthynt, pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a aiff yn anghyfannedd, a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun ni saif.
26Felly os Satan a fwrw allan Satan, y mae efe wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?
27Ac os trwy Beelzebub yr ydwyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? ac am hynny y byddant hwy yn farn-wŷr arnoch.
28Eithr os ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid trwy Yspryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.
29Canys pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei dŷ, oddi eithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn: ac yna yr yspeilia efe ei dŷ ef.
30Y nêb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casclu gyd â mi, sydd yn gwascaru.
31Am hynny y dywedaf wrthych chwi, #Mar.3.28. Luc.12.10. 1 Ioh.5.16.pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: onid cabledd yn erbyn yr Yspryd ni faddeuir i ddynion.
32A phwy bynnac a ddywedo air yn erbyn Mâb y dŷn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnac a ddywedo yn erbyn yr Yspryd glân, ni’s maddeuir iddo, nac yn y bŷd hwn, nac yn y byd a ddaw.
33Naill ai gwnewch y prenn yn dda, a’i ffrwyth yn dda, ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.
34Oh genhedloedd gwiberod #Luc.6.45.pa wedd y gellwch ymadrodd pethau da a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y lefara y genau.
35Y dŷn da o dryssor da ei galon a ddwg allan bethau da, a dŷn drwg o dryssor drwg a ddwg allan bethau drwg.
36Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, mai am bob gair segur a ddywed dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.
37Canys wrth dy eiriau i’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau i’th gondemnir.
38Yna’r attebodd rhai o’r scrifennyddion a’r Pharisæaid, gan ddywedyd, #Math.16.1. Luc.11.29. 1.Cor.1.22.Athro, chwennychem weled arwydd gennit.
39Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, cenhedlaeth ddrwg odinebus sydd yn ceisio arwydd, eithr ni roddir iddi ond arwydd y prophwyd Ionas.
40Canys fel y #Ionas.1.17.bu Ionas dri-diau a thair nôs ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dŷn dri-diau a thair nôs yng-halon y ddaiar.
41Gwŷr Ninife a gyfodant yn y farn gyd â’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnant, #Ionas.3.5.am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Ionas: ac wele vn mwy nag Ionas ymma.
42 # 1.Bren.10.1. 2.Chron.9.1. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â’r genhedlaeth hon, ac a’i condemna hi: am iddi hi ddyfod o eithafon y ddaiar, i glywed doethineb Salomon, ac wele vn mwy nâ Salomon ymma.
43A #Luc.11.24.phan êl ’r yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia ar hŷd lleoedd sychion, gan geisio gorphwyso, ac heb gael.
44Yna medd efe, mi a ddychwelaf i’m tŷ, o’r lle y daethym, ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei yscubo a’i drwsio.
45Yna yr aiff efe, ac a gymmer atto saith yspryd eraill scelerach nag ef ei hun, a hwy a ânt i mewn, ac a drigant yno, a #Heb.6.4. 2.Pet.2.10.gwaeth fydd diwedd y dŷn hwnnw na’i ddechreuad: ac felly y bydd i’r genhedlaeth ddrwg hon.
46Tra #Mar.3.31|MRK 3:31. Luc.8.20.ydoedd efe yn llefaru wrth y dyrfa, wele ei fam a’i frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.
47Yna y dywedodd vn wrtho ef, wele dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.
48Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth hwn a ddywedase wrtho, pwy yw fy mam? a phwy yw fy mrodyr?
49Ac wedi iddo estyn ei law tu ag at ei ddiscyblion efe a ddywedodd, wele fy mam a’m brodyr.
50Canys pwy bynnac a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd, fy chwaer, a’m mam.

Currently Selected:

Mathew 12: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in