YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 50

50
PEN. L.
Arwyl Iacob ai gladdedigaeth. 19 Ioseph yn madde iw frodyr. 23 yn cael gweled ei wyrion. 25 Ac yn marw.
1Yna y syrthiodd Ioseph ar wyneb ei dâd, ac a wylodd arno ef, ac ai cusanodd ef.
2Gorchymynnodd Ioseph hefyd iw weision y meddygon bêrarogli ei dâd ef: felly y meddygon a bêraroglasant Israel.
3Pan gyflawnwyd iddo ddeugain nhiwrnod, canys felly y cyflawnir dyddiau y pêr arogliad, yno’r Aiphtiaid ai harwylasant ef ddeng-nhiwrnod a thrugain.
4Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Ioseph wrth deulu Pharao gan ddywedyd: ôs cefais yr awr hon ffafor yn eich golwg, lleferwch wrth Pharao attolwg gan ddywedyd.
5Fy nhâd #Gen.47.29.’am tyngodd gan ddywedyd, wele fi yn marw, yn fy mêdd yr hwn a gloddiais i’m yng-wlâd Canaan, yno i’m cleddi: ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu attolwg, fel y claddwyf fy nhâd, yna mi a ddychwelaf.
6A ddywedodd Pharao, dôs i fynu, a chladd dy dâd fel i’th dyngodd.
7Yna’r aeth Ioseph i fynu i gladdu ei dâd, a holl weision Pharao [sef] henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlâd yr Aipht, a aethant i fynu gyd ag ef.
8Felly holl dŷ Ioseph, ai frodyr, a thŷ ei dâd: eu plant yn unic, ai defaid, ai gwarthec a adawsant yn-nhir Gosen.
9Ac aeth i fynu gyd ag ef gerbydau, a gwyr meirch hefyd, fel yr oedd llu mawr iawn.
10A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn oedd ar gyfer yr Iorddonen: ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm odieth, canys gwnaeth alar drôs ei dâd saith niwrnod.
11Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oeddynt yn presswylio y wlâd, y galar yn llawr dyrnu Atad: yna y ddywedasant dymma alar trwm gan yr Aiphtiaid a’m hynny y galwasant ei henw, Abel Misraim, yr hwn [sydd] ar gyfer yr Iorddonen.
12Felly ei feibion a wnaethant iddo, megis y gorchymynnase efe iddynt.
13Canys ei feibion ai dugasant ef i wlâd Canaā, ac ai claddasant ef yn ogof maes Machpela, #Gen.23.16.yr hon a brynnase Abraham gyd a’r maes, yn etifeddiaeth beddrod, gan Ephron yr Hethiad, ar gyfer Mamre.
14Yna y dychwelodd Ioseph i’r Aipht, efe, ai frodyr, a’r rhai oll a aethant i fynu gyd ag ef i gladdu ei dâd, wedi iddo gladdu ei dâd.
15Pan welodd brodyr Ioseph farw oi tâd, yna y dywedasant: Ioseph ond odid a’n cassâ ni, a chan dalu a dâl i ni’r holl ddrwg yr hwn a dalasom ni iddo ef.
16A’m hynny ’r anfonasant at Ioseph i ddywedyd: dy dad a orchymynnodd o flaen ei farw gan ddywedyd:
17Fel hyn y dywedwch wrth Ioseph: attolwg madde’r awr hon gamwedd dy frodyr, ai pechod hwynt: canys talasant i ti ddrwg, ond yr awr hon madde attolwg gamwedd gweision Duw dy dâd: ac wylodd Ioseph pan lefarasant wrtho.
18Ai frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant wele ni’n weision i ti.
19A dywedodd Ioseph wrthynt #Gen.45.5.nac ofnwch, canys, a [ydwyf] i yn lle Duw?
20Pan amcanasoch ddrwg i’m herbyn, Duw ai amcanodd i ddaioni, er mwyn peri fel [y gwelir] heddyw cadw’n fyw bobl lawer.
21Am hynny nac ofnwch yr awr hon, myfi a’ch chynhaliaf chwi a’ch plant: ac efe ai cyssurodd hwynt, ac a lefarodd wrth [fodd] eu calon.
22Felly y trigodd Ioseph yn yr Aipht, efe a theulu ei dâd, a bu Ioseph fyw gan mlhynedd a dêg.
23Gwelodd Ioseph hefyd o Ephraim, orwyrion, maethwyd hefyd feibion Machir fâb Manasses ar liniau Ioseph.
24A dywedodd Ioseph wrth ei frodyr, myfi sydd yn marw, a #Heb.11.22.Duw gan ymweled a ymwel a chwi, ac a’ch dŵc chwi i fynu o’r wlâd hon i’r wlâd yr hon trwy lŵ a addawodd efe i Abraham i Isaac, ac i Iacob.
25A #Exed.13.15.thyngodd Ioseph feibion Israel gan ddywedyd: Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi: dygwch chwithau fy escyrn i fynu oddi ymma.
26Ac Ioseph a fu farw yn fâb deng-mlwydd a chant: a hwy ai Pêraroglasant ef ac fe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht.

Currently Selected:

Genesis 50: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in