YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 1

1
PENNOD. I.
1 Teulu Iacob yn yr Aipht. 8 Pharao newydd yn eu gorthrymmu hwynt 15 y byd-wragedd yn arbed meibion yr Hebræesau. 20 Duw yn ymgeleddu y byd-wragedd.
1Dymma henwau meibion Israel y rhai a ddaethant i’r Aipht: gyd ag Iacob y daethant bôb vn ai deulu.
2Ruben, Simeon, Lefi, ac Iuda,
3Issachar, Zabulon, a Beniamin.
4Dan, a Nephthali, Gad, ac Aser.
5A’r holl eneidiau a ddaethent allan o gorph Iacob oeddynt #Gen.46.18.|GEN 46:18. Deut.10.22ddeng-henaid a thrivgain: ac Ioseph oedd yn yr Aipht.
6Ac Ioseph a fû farw, ai holl frodyr, a’r holl oes honno.
7A #Act.7.17.meibion Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhausant hefyd, a chryfhausant yn ddirfawr odieth: a’r wlâd a lawnwyd o honynt hwy.
8Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aipht: yr hwn nid adnabuse mo Ioseph.
9Ac efe a ddywedodd wrth ei bôbl: wele bobl meibion Israel yn amlach ac yn gryfach na nyni.
10Deuwch, gwnawn yn gall i’w herbyn: rhac amlhau o honynt, a phan ddigwyddo rhyfel ymgydio o honynt a’n caseion, a rhyfela i’n herbyn a myned i fynu o’r wlâd.
11Am hynny y gosodasant feistred gwaith iw gorthrymmu ai clûd hwynt: a [phobl Israel] a adailadasant i Pharao ddinasoedd tressorau [sef] Pithom a Raamses.
12Ond fel y gorthrymment hwynt, felly’r amlhaent, ac y cynnyddent: a chyfyng oedd arnynt o herwydd meibion Israel.
13A’r Aiphtiaid a gaethiwasant feibion Israel yn dôst.
14A gwnaethant eu henioes hwynt yn chwerw drwy y gwasanaeth caled mewn clai, ac mewn priddfain, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; gyd ai holl wasanaeth yr hyn a ofynnasant ganddynt yn dôst.
15A brenin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebræesau: o ba rai henw vn [oedd] Siphra, ac henw’r ail Puah.
16Ac efe a ddywedodd, pan fyddoch fydwragedd i’r Hebræesau, a gweled o honoch eu hescoredd-le: os mab fydd lleddwch ef, ond os merch bydded hi fyw.
17Er hynny y byd-wragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedase brenin yr Aipht wrthynt: eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18A’m hynny brenin yr Aipht a alwodd am y byd-wragedd, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham y gwnaethoch y peth hyn’: ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?
19A’r byd-wragedd a ddywedasant wrth Pharao nad [oedd] yr Hebræesau fel yr Aiphtiesau: onid eu bôd hwynt yn fywioc, ac yr escorent cynn dyfod byd-wraig attynt.
20A’m hynny y bu Duw dda wrth y byd-wragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21Ac o herwydd i’r byd-wragedd ofni Duw: yntef a wnaeth deuluoedd iddynt hwythau.
22A Pharao a orchymynnodd iw holl bobl gan ddywedyd: pob mâb a’r a enir bwriwch ef i’r afon, ond cedwch yn fyw bob merch.

Currently Selected:

Exodus 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in