YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 49

49
PEN. XLIX.
Iacob yn bendithio ei feibion: ac yn Prophwydo am bôb vn o honynt. 29 yn dangos y llê y cleddyd ef. 33 Ac yn marw.
1Yna y galwodd Iacob ar ei feibion, ac a ddywedodd: ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi’r hyn a ddamweinio i chwi yn y dyddiau diweddaf.
2Ymgesclwch, a chlywch, meibion Iacob: ie gwrandewch ar Israel eich tâd.
3Ruben fyng-hynfab, ti [oeddit] fyngrymm, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.
4Yscafnder [oeddit] fel dwfr, ni ragori di, canys dringaist welau dy dâd: yna yr halogaist [hwynt] fyng-wely a ddringodd efe.
5Simeon, a Lefi [fuant] frodyr, offer trais [oedd] eu hanneddau.
6Na ddeled fy enaid iw cyfrinach hwynt, fyngogoniant, na ûna ai cynnulleidfa hwynt, canys yn eu dîg y lladdasant ŵr, ac oi gwirfodd y diwreiddiasant gaer.
7Melldigedic fydd eu dîg, canys tôst [oedd,] ai llîd, canys caled [fu,] rhannaf hwynt yn Iacob, a gwascaraf hwynt yn Israel.
8Tithe Iuda, dy frodyr a’th glodforant di, dy law [fydd] yng-warr dy elynion; meibion dy dâd a ymgrymmant i ti.
9Cenew llew [wyt] Iuda, o’r sclyfaeth y daethost i fynu fy mâb: ymgrymmodd, gorweddodd fel llew, ac fel hên lew, pwy ai cyfyd ef?
10Nid ymedu teyrn-wialen o Iuda, na deddf-wr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Silo: ac iddo ef [y bydd] vfydd-dod pobloedd.
11Efe a rwym ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei assyn wrth y bêr win-wydden: golchodd ei wisc mewn gwîn, ai ddillad yng-waed y grawn-wîn.
12Côch [fydd] ei lygaid gan wîn, a gwyn [fydd] ei ddannedd gan laeth.
13Zabulon a bresswylia ym-mhorthloedd y môr, ac efe a fydd yn borthfa llongau, ai ystlys fydd hyd Sidon.
14Issacar yn assyn ascyrnoc, a orwedd rhwng dau bwnn.
15Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r ddaiar mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i gludo, ac a fydd yn gaeth tann deyrnged.
16Dan a farn ei bobl fel vn o lwythau Israel.
17Dan fydd sarph ar y ffordd, a neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau y march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.
18Am dy iachadwriaeth di y disgwyliaf Arglwydd,
19Gad, llu ai anrheithia, ac yntef a anrheithia o’r diwedd.
20Am Asser bras [fydd] ei fwyd ef, ac efe a rydd ddaintethion brenhinol.
21Nephthalim [fydd] ewig, wedi ei gollwng yn rhoddi geiriau têg.
22Ioseph [fydd] gangen yn cynnyddu, cangen yn cynnyddu wrth ffynnon ceingciau yn cerdded ar hyd mûr.
23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac ai casauasant ef.
24Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant: o ddwylo [Duw] crŷf Iacob: oddi yno y [mae] bugail, [a] maen Israel.
25Oddi wrth Dduw dy dâd, canys ef a’th gynnorthwyodd di, a’r holl alluoc, canys ef a’th fendithiodd, a bendithion y nefoedd oddi uchod, a bendithion y dyfnder yn gorwedd issod, a bendithion y bronnau a’r grôth.
26Rhagorodd bendithion dy dâd fendithion fy rhieni hyd derfyn brynniau tragywyddoldeb: byddant ar ben Ioseph, ac ar goryn yr hwn a nailltuwyd oddi wrth ei frodyr.
27Beniamin a sclyfaetha [fel] blaidd, y boreu y bwyttu’r sclyfaeth, ac ar bryd nawn y rhan yr yspail.
28Dymma ddeuddec llwyth Israel oll, ac dymma’r hyn a lefarodd eu tâd wrthynt, felly y bendithiodd efe hwynt: pôb vn ŷn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
29Yna y gorchymynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, myfi a gesclir at fy mhobl, cleddwch fi gyd a’m tadau, yn yr ogof yr hon [sydd] ym maes Ephron yr Hethiad.
30Yn yr ogof yr hon [sydd] ym maes Machpela, yr hon [sydd] ar gyfer Mamre, yng-wlâd Canaan, yr hon a brynnodd Abraham gyd a’r maes gan Ephron yr Hethiad, yn etifeddiaeth beddrod.
31Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig, yno y claddasant Isaac a Rebecca ei wraig, ac yno y cleddais i Lea.
32Meddiant y maes ar ogof yr hon [sydd] ynddo [a gaed] gan feibion Heth.
33Pan orphennodd Iacob orchymyn iw feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw a chasglwyd ef at ei bôbl.

Currently Selected:

Genesis 49: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in