YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 48

48
PEN. XLVIII.
Ioseph yn myned ai ddau fab i ymweled ai dâd yn ei glefyd. 3 Iacob yn adrodd i Ioseph addewidion Duw. 5 Yn cymmeryd ei ddau fab ef yn eiddo ei hun. 14 Yn rhoddi y rhagor-fraint i’r ieuangaf. 21 Ac yn darogan eu dychweliad hwynt i dîr Canaan.
1A bu wedi y petheu hyn, ddywedyd wrth Ioseph, wele y mae dy dâd yn glâf: ac efe a gymmerth ei ddau fâb gyd ag ef, Manasses, ac Ephraim.
2Yna y mynegodd [vn] i Iacob, ac a ddywedodd, wele dy fâb Ioseph yn dyfod attat, ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd yn [ei] wely.
3A dywedodd Iacob wrth Ioseph, #Gene.28.31.(sic.)Duw hollalluawg a ymddangosodd i mi yn Luz, o fewn tîr Canaan, ac a’m bendithiodd:
4Dywedodd hefyd wrthif, wele fi yn peri it gynnyddu, amlhaf di hefyd, a rhoddaf di yn dyrfa o bobloedd, a rhoddaf y tîr hwn i’th hâd ti, ar dy ol di, yn etifeddiaeth dragywydd.
5Ac yr awrhon dy ddau fâb #Gene.41.50.y rhai a anwyd i ti yn nhîr yr Aipht, cyn fy nyfod attat i’r Aipht eiddof fi [fyddant] hwy, Ephraim, a Manasses fyddant eiddof fi fel Ruben, a Simeon.
6A’th blant y rhai a genhedlaist ar eu hôl hwynt fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hettifeddiaeth.
7A phan #Gen.35.19.ddaethym i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyd a mi yn nhîr Canaan, ar y ffordd, pan [oedd] etto filldir o dîr hyd Ephrata: a chleddais hi ar ffordd Ephrata, honno [yw] Beth-lehem.
8Yna y gwelodd Israel feibion Ioseph, ac a ddywedodd pwy [yw] ’r rhai hyn?
9Ac Ioseph a ddywedodd wrth ei dâd, dymma fy meibion mau fi y rhai a roddodd Duw i mi ymma yntef a ddywedodd dŵg hwynt attolwg, attafi fel y bendithiwyf hwynt.
10Llygaid Israel oeddynt hefyd drymmion gan henaint, [fel] na alle efe weled: pan ddygodd hwynt atto ef, yntef ai cusanodd hwynt, ac ai cofleidiodd.
11Dywedodd Israel hefyd wrth Ioseph, ni feddyliais weled dy wyneb, etto wele parodd Duw i’m weled dy hâd hefyd.
12Yna Ioseph ai tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb.
13Cymmerodd Ioseph hefyd hwynt ill dau Ephraim yn ei law ddehau o du asswy Israel, a Manasses yn ei law asswy o du dehau Israel: ac ai nesaodd atto ef.
14Yna Israel a estynnodd ac i osododd ei law ddehau ar benn Ephraim, (a hwn oed yr ieuangaf) ai law asswy ar benn Manasses: deallase dan ei ddwylo mai Manasses [oedd] y cynfab.
15Yna y bendithiodd efe Ioseph ac a ddywedodd, Duw yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham, ac Isaac, ger ei fron: Duw, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf hyd y dydd hwn,
16Yr angel yr hwn a’m gwaredodd fi o bôb drwg, a fendithio y llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham, ac Isaac a alwer arnynt, heigiant hefyd yn lliaws, yng-hanol y wlâd.
17Pan welodd Ioseph osod oi dâd ei law ddehau ar ben Ephraim, yna y bu anfodlon ganddo, ac efe a ddaliodd law ei dâd, iw symmud hi oddi ar benn Ephraim, ar benn Manasses.
18Dywedodd Ioseph hefyd wrth ei dâd, nid felly fy nhâd, canys dymma y cynfab: gosot dy law ddehau ar ei ben ef.
19A’i dâd, ac a ommeddodd, ac a ddywedodd, mi a wn, fy mab, mi a wn, bydd hwn hefyd yn bobl, a mawrheir hwn hefyd: ond er hynny ei frawd iangaf fydd mwy nac ef: ai hâd ef fydd genhedlaeth gyflawn.
20Ac efe ai bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd: ynot ti y bendithia Israel gan ddywedyd: gossoded Duw di fel Ephraim, ac fel Manasses: ac efe a ossododd Ephraim o flaen Manasses.
21Dywedodd Israel hefyd wrth Ioseph, wele fi yn marw, a bydd Duw gyd a chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dîr eich tadau.
22A mi a roddais i ti vn rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law’r Amoriaid a’m cleddyf, ac a’m bŵa.

Currently Selected:

Genesis 48: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in