YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 47

47
PEN. XLVII.
Ioseph yn dangos i Pharao ddyfod ei dad Iacob. 7 Iacob yn dyfod o flaen Pharao, yn dywedyd iddo ei oedran ac yn cael tir Gosen. 12. Ioseph yn cael i Pharao, holl arian, anifeiliaid, a thiroedd yr Aiphtiaid am yd. 22 Haelioni Pharao iw offeiriaid. 29 Gofal Iacob am ei gladdedigaeth.
1Yna y daeth Ioseph, ac a fynegodd i Pharao, ac a ddywedodd: fy nhâd a’m brodyr, ai defaid, ai gwarthec, a’r hyn oll [oedd] ganddynt, a ddaethant o dîr Canaan, ac wele hwynt yn nhîr Gosen.
2Ac efe a gymmerth rai oi frodyr [sef] pum dŷn: ac ai gosododd hwynt o flaen Pharao.
3Yna y dywedodd Pharao wrth ei frodyr ef, beth [yw] eich gwaith? hwythau a ddywedasant wrth Pharao: bugeilio defaid y mae dy weision, ie nyni a’n tadau hefyd.
4Dywedasant hefyd wrth Pharao, i orymdaith yn y tîr hwn y daethom, am nad [oes] borfa i’r defaid y rhai [ydynt] gan dy weision, canys trwm [yw] ’r newyn yngwlad Canaan: ac yr awrhon attolwg caed dy weision drigo yn nhîr Gosen.
5Yna y llefarodd Pharao wrth Ioseph gan ddywedyd: dy dâd a’th frodyr, a ddaethant attat.
6Tîr yr Aipht sydd o’th flaen cyflea dy dâd a’th frodyr o fewn [rhan] oref y wlâd: trigant yn nhîr Gosen, ac os gwyddost fod yn eu mysc wyr grymmus, gosod hwynt yn fugeiliaid ar yr hyn [sydd] gennif i.
7Yna y dûg Ioseph Iacob ei dâd, ac ai gosododd ger bron Pharao, ac Iacob a fendithiodd Pharao:
8Yna y dywedodd Pharao wrth Iacob, yng-hylch pa feint [yw] dyddiau blynyddoedd dy enioes?
9Ac Iacob a ddywedodd wrth Pharao, dyddiau blynyddoedd#Hebr.11.9,13. fy ymdaith [ydynt] ddêc, ar hugain, a chan mhlynedd: ychydic, a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy enioes, ac ni chyrheuddasant ddyddiau blynyddoedd enioes fy nhadau: yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
10Yna y bendithiodd Iacob Pharao, ac a ddaeth allan o ŵydd Pharao.
11Ac Ioseph a gyfleodd ei dâd, ai frodyr, ac a roddes iddynt etifeddiaeth yng-wlad yr Aipht yng-hwr goref y wlâd, yn-nhîr #Exod.1.11.Rameses, fel y gorchymynnase Pharao.
12Bwydodd Ioseph hefyd ei dâd, ai frodŷr, a holl dŷ lwyth ei dâd, a bara fel [bwydo] ym-mhen plentyn.
13Ac nid oedd [bara] yn yr holl wlâd, canys y newyn oedd drwm iawn, fel yr oedd gwlad yr Aipht, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.
14Casclase Ioseph hefyd yr holl arian, yr hyn a gawsyd yn-nhîr yr Aipht, ac yn-nhîr Canaan, am yr ymborth yr hwn a brynnasent hwy, a dugase Ioseph yr arian i dŷ Pharao.
15Pan ddarfu yr arian o dir yr Aipht, ac o dir Canaan, yna’r holl Aiphtiaid a ddaethant at Ioseph gan ddywedyd: moes i ni fara, canys pam y byddwn ni feirw ger dy fron? o herwydd darfu yr arian.
16Yna y dywedodd Ioseph, moeswch eich anifeiliaid, a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian.
17Felly y dygasant eu hanifeiliaid at Ioseph, a roddes Ioseph iddynt fara, am y meirch, ac am y cyfoeth defaid, ac am y cyfoeth gwarthec, ac am yr assynnod: ac ai cynhaliodd hwynt a bara, am eu holl anifeiliaid tros y flwyddyn honno.
18A phan ddarfu y flwyddyn honno y daethant atto ef, yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho: ni chelwn oddi wrth ein harglwydd er darfod yr arian, a [myned ein] yscrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd: ni adawyd [i ni] ger bron fy arglwydd, onid ein cyrph, a’n tîr.
19Pa ham, y byddwn feirw o flaen dy lygaid? [cymmer] nyni a’n tir, prynn ni a’n tîr am fara, a nyni a’n tîr a fyddwn gaethion i Pharao, dod tithe i ni hâd fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac nad anghyfanedder ein tîr ni.
20Felly y cymmerth Ioseph holl dîr yr Aipht i Pharao, canys yr Aiphtiaid a werthasant bôb vn ei faes, o blegit y newyn a orchfygase arnynt: felly yr aeth y tîr i Pharao.
21Y bobl hefyd a yrrodd efe i ddinasoedd, o’r naill gwrr i derfyn yr Aipht hyd ei chwrr [arall.]
22Yn unic tîr yr offeiriaid ni phrynnodd efe, canys rhan [oedd] i’r offeiriaid oddi wrth Pharao, ai rhan a roddase Pharao iddynt a fwyttasant hwy, am hynny ni werthasant hwy eu tîr.
23Dywedodd Ioseph hefyd wrth y bobl, wele prynnais chwi heddyw, a’ch tîr i Pharao: wele i chwi hâd, heuwch chwithau y tîr.
24A bydded i chwi roddi i Pharao y bumed ran o’r cnŵd, a bydded y pedair rhan i chwi, yn hâd i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai [ydynt] yn eich tai chwi, ac yn fwyd i’ch plant.
25Yna y dywedasant, cedwaist ni yn fyw, gâd i ni gael ffafor yng-olwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharao.
26A gosododd Ioseph hynny yn ddeddf hyd heddyw ar dîr yr Aipht, am y bumed ran i Pharao onid o tîr yr offeiriaid yn unic, nid oedd eiddo i Pharao.
27Trigodd Israel hefyd yng-wlad yr Aipht o fewn tîr Gosen, ac etifeddasant ynddi, cynneddasant hefyd, ac amlhausant yn ddirfawr.
28Iacob hefyd fu fyw yn nhîr yr Aipht ddwy flynedd ar bymthec, felly’r oedd dyddiau Iacob, [sef] blynyddoedd ei enioes ef, yn saith mlhynedd a deugain, a chan mlhynedd.
29Yna dyddiau Israel a nesasant i farw, ac efe a alwodd am ei fab [sef] am Ioseph, ac a ddywedodd wrtho, attolwg o chefais ffafor yn dy olwg, #Gene.24.2.gosot ti yr awr hon dy law tann fy morddwyd, a gwna a mi drugaredd, a gwiriondeb, attolwg na chleddech di fi yn yr Aipht.
30Pan hunwyf gyd a’m tadau, yna dŵg fi o’r Aipht, a chladd fi yn eu beddrod hwynt, yntef a ddywedodd, mi a wnaf yn ol dy air.
31Yna efe a ddywedodd twng wrthif, ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymmodd tua phen y gwely.

Currently Selected:

Genesis 47: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in