Seffaneia 3
3
1 Ceryddu Jerusalem yn llym am amryw bechodau. 8 Annog i ddisgwyl am adferiad Israel, 14 ac i lawenychu o achos eu hymwared gan Dduw.
1Gwae y #3:1 Neu, loth. Heb. grombil.fudr a’r halogedig, y ddinas orthrymus! 2Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd #3:2 Neu, athrawiaeth.gerydd; nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd, ni nesaodd at ei Duw. 3#Esec 22:27; Micha 3:9, 10, 11Ei thywysogion o’i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr #Hab 1:8yn fleiddiau yr hwyr, #3:3 Neu, ni chnoant yr esgyrn hyd y bore.ni adawant asgwrn erbyn y bore. 4Ei #Jer 23:11, 32; Hos 9:7phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷr anffyddlon: #Esec 22:26ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith. 5#Deut 32:4Yr Arglwydd cyfiawn #ad. 15, 17sydd yn ei chanol; ni wna efe anwiredd: #3:5 Neu, bob bore.yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond #Jer 3:3; 6:15; 8:12yr anwir ni fedr gywilyddio. 6Torrais ymaith y cenhedloedd: eu #3:6 Neu, conglau.tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol. 7Dywedais, Yn ddiau ti a’m hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.
8Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr Arglwydd, hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth: canys #3:8 Neu, fy mryd.fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd #Pen 1:18yr ysir yr holl ddaear. 9Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl #Esa 19:18wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd. 10O’r #Esa 18:1, 7; Act 8:27tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm. 11Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i’m herbyn: canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd. 12Gadawaf ynot hefyd #Esa 14:32; Sech 11:11bobl druain dlodion, ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy. 13Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a’u tarfo.
14 #
Esa 12:6; 54:1; Sech 9:9 Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon. 15Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr Arglwydd brenin Israel #ad. 5, 17sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach. 16Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo. 17Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn: #Jer 32:41efe a achub, efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu. 18Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i’r rhai yr oedd #3:18 Heb. y baich arno yn waradwydd.ei gwaradwydd yn faich. 19Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant: ac #Esec 34:16; Micha 4:6, 7a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth. 20Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr Arglwydd.
Currently Selected:
Seffaneia 3: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society