YouVersion Logo
Search Icon

Haggai 1

1
1 Haggai yn beio’r bobl am esgeuluso adeiladu y tŷ: 7 yn eu hannog hwy i’w adeiladu ef: 12 ac yn addo cymorth Duw iddynt, os gwnaent hynny yn ewyllysgar.
1Yn #Esra 4:24; 5:1; Sech 1:1yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at #1 Cron 3:17, 19Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, 2Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd. 3Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 4#2 Sam 7:2; Salm 132:3, &cAi amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a’r tŷ hwn yn anghyfannedd? 5Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd; #1:5 Heb. Gosodwch eich calonnau ar eich ffyrdd.Ystyriwch eich ffyrdd. 6#Deut 28:38; Hos 4:10; Micha 6:14, 15Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; #Sech 8:10a’r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. 8Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr Arglwydd. 9Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, #1:9 Neu, chwythais ef ymaith.chwythais arno. Am ba beth? medd Arglwydd y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun. 10Am hynny gwaharddwyd i’r #Lef 26:19; Deut 28:23nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth. 11#2 Bren 8:1Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac #Pen 2:17ar holl lafur dwylo.
12Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef; a’r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd. 13Yna Haggai cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy genadwri yr Arglwydd wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr Arglwydd. 14Felly y cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt, 15Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.

Currently Selected:

Haggai 1: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in