Seffaneia 2
2
1 Annog i edifeirwch. 4 Barn y Philistiaid, 8 a’r Moabiaid, ac Ammon, 12 ac Ethiopia, ac Assyria.
1Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl #2:1 Neu, anhygar, neu, heb chwenychu.anhawddgar; 2Cyn i’r ddeddf esgor, cyn i’r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd. 3Ceisiwch yr Arglwydd, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd‐dra: #Joel 2:14; Amos 5:15; Jona 3:9fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.
4Canys bydd #Jer 47:4, 5; Esec 25:15; Amos 1:6; Sech 9:5Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron. 5Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr Arglwydd i’ch erbyn: O #Jos 13:3Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a’th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr. 6A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid. 7A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: #2:7 Neu, pan ymwelo yr Arglwydd eu Duw â hwynt, a dychwelyd, &ccanys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.
8 #
Jer 48:27
Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â’r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac #Jer 49:1yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt. 9Am hynny fel mai byw fi, medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Fel Sodom y bydd #Esa 15; Jer 48; Esec 25:9; Amos 2:1Moab, a #Amos 1:13meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a’u difroda, a gweddill fy nghenedl a’u meddianna hwynt. 10Hyn a ddaw iddynt #Esa 16:6; Jer 48:29am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd. 11Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt: canys efe a #2:11 Heb. gulha.newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o’i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.
12 #
Esa 18:1; 20:4; Esec 30:9 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â’m cleddyf. 13Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac #Esa 10:12; Esec 31:3; Nahum 1:1; 2:10; 3:15a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch. 14A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: #Esa 34:11, 14y pelican a’r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd‐dra a fydd yn y gorsingau: #2:14 Neu, pan ddinoetha.canys efe a ddinoetha y cedrwaith. 15Hon yw y ddinas hoyw #Esa 47:8oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a’r a êl heibio iddi, #Job 27:23; Galar 2:15a’i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.
Currently Selected:
Seffaneia 2: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society