Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Chwe diwrnod o Enwau Niferus DuwSampl

Six Days Of The Names Of God

DYDD 5 O 6

DAY 5: ELOHE TSADEKI – DUW FY NGHYFIAWNDER

Dŷn ni wastad yn edrych am y peth mawr nesaf. Y gyfrinach i fod yn drefnus. Yr allwedd i gael trefn arnom ni ein hunain. Y cynllun sicr ar gyfer sefydlogrwydd ariannol. Dŷn ni’n darllen llyfrau, gwrando ar bod-lediadau, a chofrestru ar gyfer seminarau. A thra bod trefn, iechyd corfforol a sefydlogrwydd ariannol yn weithgareddau teilwng, dŷn ni angen gwneud yn siŵr nad ydyn ni’n methu’r darlun cyfan pan dŷn ni’n edrych am y peth mawr nesaf.

Prif bwrpas bywyd yw dilyn Duw, i ddod mwy fel e a byw ein bywydau iddo e. Ac mae dod fel Duw’n golygu tyfu mewn daioni a chyfiawnder. O’r Arglwydd daw trugaredd, gras, a nerth – rhinweddau dŷn ni angen yn ein bywydau ac yn y byd. Mae Duw’n rhoi popeth dŷn ni ei angen drwy ei Air ac Ysbryd i fyw bywyd mewn helaethrwydd llawenydd. Pan fydden yn dewis ei ddymuniadau e dros rhgai ni dŷn ni’n ymdrechu i ddod yn debycach iddo e. Mae e’n ein tywys a’n harwain.

Gall dilyn cynllun Duw fod yn fwy heriol na chadw at chwe cam hawdd i ddod yn ffit, neu ddeg ffordd o leihau’r annibendod yn dy gartref. Ond mae e gymaint mwy boddhaus. Pan fyddwn yn troi at Dduw ac yn ildio ein bywydau iddo, mae e’n maddau i ni ac yn ein gwobrwyo gyda’i dosturi. Mae e’n helpu i drwsio ein perthynas ag eraill sydd wedi torri, ac yn llenwi ein calonnau â chyfiawnder, gras, a heddwch. Mae ffrwyth da yn dod o ddilyn Duw a chaniatáu ei gyfiawnder i arwain ein camau.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Six Days Of The Names Of God

O blith enwau niferus Duw, mae e wedi datgelu i ni agweddau o'i gymeriad a'i natur. Y tu hwnt i Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, mae'r Beibl yn dangos dros 80 o wahanol enwau Duw. Cofnodir yma chwe enw a'u hystyron i helpu'r un sy’n credu i ddod yn nes at yr Un Gwir Dduw. Dyfyniadau o Experience the Power of God's Names: A Life-Giving Devotional, gan Dr. Tony Evans. Eugene, NEU: Harvest House Publishers, 2017.

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative a Tony Evans am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/