Chwe diwrnod o Enwau Niferus DuwSampl
DAY 4: ESH OKLAH – TÂN SY’N DIFA
Wyt ti wedi profi’r dinistr ddaw o ganlyniad i dân mewn coedwig? Mae’n difrodi popeth sydd yn ei lwybr, gan neidio’n sydyn dros ffyrdd, pontydd, a hyd yn oed afonydd. Nawr dychmyga tân sy’n difrodi sydd yn fwy na’r bydysawd, ac rwyt yn dechrau cael darlun bach o bŵer Duw.
Dylai bod gennym barch tuag at bŵer aruthrol Duw, ond mae angen i ni gofio hefyd ei fod yn Dduw hynod o bersonol sy’n gofalu amdanom ni. Ac oherwydd hyn, mae e’n Dduw sy’n haeddu ein mawl ac addoliad pob amser. Dylen ni ddim ei gymryd yn ganiataol, ond dylen ni ddim ofni gweiddi allan a dechrau ar berthynas ag e.
Mae anferthedd Duw yn gallu bod yn anodd ei amgyffred, yn union fel ei sylw manwl yn ein bywydau. Sul y gall bod mor anferthol bryderu am yr hyn sy’n ymddangos yn ddibwys yn ein bywydau? Y rheswm ydy, dŷn ni o bwys dwfn iddo. A dyna pam mae angen i ni adael i’w dân sy’n difa losgi’n gryf yn ein calonnau.
Esh Oklah yw e, tân sy’n difa, ond yn llawn gras ac amynedd. Mae e’n ein denu ato gyda’r bwriad o’i wneud e’n flaengar yn ein calonnau, meddyliau ac eneidiau. Ac ynghanol y tân mae e’n cynaeafu cariad yn ein calonnau.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
O blith enwau niferus Duw, mae e wedi datgelu i ni agweddau o'i gymeriad a'i natur. Y tu hwnt i Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, mae'r Beibl yn dangos dros 80 o wahanol enwau Duw. Cofnodir yma chwe enw a'u hystyron i helpu'r un sy’n credu i ddod yn nes at yr Un Gwir Dduw. Dyfyniadau o Experience the Power of God's Names: A Life-Giving Devotional, gan Dr. Tony Evans. Eugene, NEU: Harvest House Publishers, 2017.
More