Chwe diwrnod o Enwau Niferus DuwSampl
Dŷn ni’n hoffi meddwl ein bod yn bobl ffyddlon. Dŷn ni’n cyrraedd y gwaith ar amser (wel, fel arfer) a chwblhau ein gwaith gydag arddeliad. Dŷn ni’n rhoi amser i’r teulu a ffrindiau. Dŷn ni’n ymwneud llawer â’n heglwys ac yn ymrwymo i bwyllgorau a chyfleoedd i wirfoddoli. Ond waeth pa mor galed dŷn ni’n trio bod yn ffyddlon, dŷn ni ddim yn berffaith. Mae’n anochel, byddwn yn methu cyfarfod neu fethu gêm bêl droed plentyn neu’n anghofio am y ddyletswydd wirfoddol.
Oherwydd na allwn fod yn bobl ffyddlon bob amser, mae’n galonogol i wybod ein bod yn gwasanaethu Duw ffyddlon. Mae ei enw El Emunah yn golygu “y Duw ffyddlon,” a gellir dibynnu arno e wastad i droi i fyny, torchi ei lewys a dechrau gweithio yn ein bywydau. Wastad yn cadw ei addewidion? Gwiria. Wastad yn clywed ein gweddïau? Gwiria Wastad yn aros gyda ni? Gwiria.
Mae pethau’n digwydd yn ein bywydau sy’n ein cadw rhag bod yn ffyddlon i eraill. Am ein bod yn ddynol dŷn ni’n cael ein temtio i wneud penderfyniadau ar sail amddiffyn ein hunain, hunanoldeb a thrachwant. A rhoi'r peth yn syml, allwn ni ddim bod yn berffaith drwy’r adeg. Ond pan dŷn ni ddim yn troi fyny, mae Duw yn gwneud hynny. Mae e’n ein tywys yn ôl yn dyner i’r gwaith arbennig sydd ganddo ar ein cyfer ni - y gwaith o fod yn ffyddlon a throi fyny ar gyfer eraill. Pan fyddwn yn troi at ei berffeithrwydd e yn ein cyfnodau ni o amherffeithrwydd, mae ei ffyddlondeb yn ein trawsnewid.
Os oedd y defosiwn hwn yn fuddiol i ti, dŷn ni eisiau cynnig rhodd i ti o bregeth i’w lawr lwytho ar yr enw Jehovah Jireh. Gwna gais yma am y bregeth gyfan gan Tony Evans.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
O blith enwau niferus Duw, mae e wedi datgelu i ni agweddau o'i gymeriad a'i natur. Y tu hwnt i Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, mae'r Beibl yn dangos dros 80 o wahanol enwau Duw. Cofnodir yma chwe enw a'u hystyron i helpu'r un sy’n credu i ddod yn nes at yr Un Gwir Dduw. Dyfyniadau o Experience the Power of God's Names: A Life-Giving Devotional, gan Dr. Tony Evans. Eugene, NEU: Harvest House Publishers, 2017.
More