Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu EraillSampl

What Is My Purpose? Learning to Love God and Love Others

DYDD 4 O 7

Trawsnewid

Ffocws

Cyn darlleniadau heddiw, defnyddiwch y weddi fer hon wrth anadlu’n araf o Ioan 3:30 i baratoi dy galon, meddwl ac ysbryd i ddeall sut mae trawsnewid yn rhan o'n gwaith ni, pwrpas fel disgyblion a dilynwyr Crist.

Anadl a i mewn: Rhaid iddo gynyddu;

Anadla allan: Rhaid i mi leihau.

Gwranda

Nikos Kazantzakis - Report to Greco

Un diwrnod, gofynnodd Nikos i’r Tad Makarios, “Ydych chi’n dal i ymgodymu â’r diafol, Tad Makarios?” Myfyriodd yr hen fynach am ychydig ac yna atebodd: “Dim bellach, fy mhlentyn... dw i wedi mynd yn hen ac wedi blino, ac mae'r diafol wedi heneiddio gyda mi. Felly dw i'n gadael llonydd iddo, ac mae'n gadael llonydd i mi.

Gofynnodd Nikos, “Yna mae bywyd yn hawdd nawr?”

Ymatebodd Tad Makarios, “O, na. Mae bywyd yn llawer anoddach nawr. Am y tro, dw i'n reslo gyda Duw.”

Ebychodd Nikos, “Yr ydych yn reslo yn Nuw ac yn gobeithio ennill?”

“Na,” meddai'r Tad Makarios, “yr wyf yn reslo gyda Duw ac yn gobeithio colli.”

Cymhwyso

Beth ydych chi'n feddwl mae Iesu yn ei olygu i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi? Beth mae'n ei olygu i golli eich bywyd i ddod o hyd iddo?

Yn y stori o Report to Greco, pam wyt ti'n meddwl bod y Tad Makarios yn reslo gyda Duw ac yn gobeithio colli?

Ymateb

Tyrd â’r amser defosiwn mewn gweddi i ben, gan ddarllen y geiriau hyn o'r emyn glasurol,Cymer, Arglwydd, f’einioes i:

Cymer Arglwydd, f’einioes i

i’w chysegru oll i ti,

Cymer fy munudau i fod;

fyth yn llifo er dy glod,

Cymer mwy f’ewyllys i;

gwna hi’n un â’r eiddot ti.

cymer iti’r galon hon,

yn orseddfainc dan fy mron.

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

What Is My Purpose? Learning to Love God and Love Others

Edrycha ar dy bwrpas fel un o ddilynwyr Iesu: i garu Duw a charu eraill. Dros saith diwrnod, byddwn yn dadbacio themâu addoliad personol, trawsnewid, tosturi, gwasanaeth a chyfiawnder. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda gweddi i’th helpu i ganolbwyntio ar thema’r dydd, darn neu ddau o’r ysgrythur, meddwl o safbwynt diwinyddol, a ffyrdd o gymhwyso’r darlleniad ac ymateb iddo. =.

More

Hoffem ddiolch i TENx10 am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.tenx10.org/