Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu EraillSampl

What Is My Purpose? Learning to Love God and Love Others

DYDD 1 O 7

Diben a Hunaniaeth

Ffocws

Mae ein pwrpas yn llifo'n naturiol allan o'n hunaniaeth, felly wrth i ti ddechrau'r defosiwn hwn, gad i'r tri chwestiwn hyn dy helpu i fyfyrio'n weddigar ac yn ystyriol: < /p>

  • Pwy mae Duw yn dweud ydw i?
  • Pwy mae Duw wedi fy ngwneud i i fod?
  • Beth mae Duw wedi fy ngalw i i'w wneud?

Gwrando

Michael Berg — Galwad: Y Sefyllfa ar gyfer Ffynnu Dynol

Mae “Pwy ydw i?” yn gwestiwn teg dŷn ni oll yn ei ofyn i ni ein hunain. Efallai ei bod yn well gofyn, “Pwy a wnaeth Duw fi i fod, ac i bwy y mae Duw wedi fy ngalw i wasanaethu?” Yr wyt yn werthfawr nid oherwydd dy enw olaf, dy gyflog, neu dy swydd, ond oherwydd Crist: yn gyntaf yn dy hunaniaeth fedydd fel un a brynwyd gan Grist croeshoeliedig ac yn ail fel cydweithwyr gyda Duw yn ei economi o Gariad.”

Gweithredu

Gwna restr o'r holl ffyrdd rwyt ti'n adnabod dy hun a sut mae'r dynodwyr hynny'n siapio sut rwyt ti'n byw:

Sut gallai dy ddynodwyr amrywiol (perthnasoedd, gyrfa, gallu, ethnigrwydd, rhywedd, profiadau, ac ati) lywio sut rwyt ti'n byw yn y byd?

Sut gallai dy hunaniaeth fel un o’r rhai sydd “wedi’n creu mewn perthynas â’r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi’u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud”, siapio dy bwrpas mewn bywyd?

Ymateb

Yn awr, ystyria’n weddi sut y gallai dy hunaniaeth yng Nghrist ymdoddi i bob rhan arall o’th hunaniaeth. Siarada â Duw am sut y gelli di “fyw trwy ffydd” gartref, yn y gwaith ac yn y gymuned.

Gweddi i Gloi

Diolcha i Dduw, sy'n dy garu di gymaint, am dy hunaniaeth a’th fywyd yng Nghrist.

Cyffesa i Dduw lle y gallet fod wedi crwydro oddi wrth dy brif hunaniaeth a’th bwrpas.

Gofynna i Dduw sut mae byw’n ymarferol i’r hunaniaeth hon heddiw

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

What Is My Purpose? Learning to Love God and Love Others

Edrycha ar dy bwrpas fel un o ddilynwyr Iesu: i garu Duw a charu eraill. Dros saith diwrnod, byddwn yn dadbacio themâu addoliad personol, trawsnewid, tosturi, gwasanaeth a chyfiawnder. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda gweddi i’th helpu i ganolbwyntio ar thema’r dydd, darn neu ddau o’r ysgrythur, meddwl o safbwynt diwinyddol, a ffyrdd o gymhwyso’r darlleniad ac ymateb iddo. =.

More

Hoffem ddiolch i TENx10 am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.tenx10.org/