Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 8 O 8

Pan gyrhaeddodd y merched y bedd, nid bedd oer wedi'i selio oedd yn eu disgwyl wrth i'r Saboth wawrio, ond angel, yn eistedd ar y garreg oedd wedi'i rolio i ffwrdd
A beth oedd geiriau'r angel?
"Peidiwch bod ag ofn!"
Gad i ni deithio nôl ryw 33 o flynyddoedd cyn bore'r Atgyfodiad pan anfonwyd angel o'r nefoedd i gyhoeddi geni Iesu. Beth ddwedodd yr angel?
""Peidiwch bod ag ofn!"
Pan mae Duw'n ymddangos yn ein bywydau , mae e'n dod i ddileu pob ofn. Bu Iesu fyw a marw i ddelio gyda broblemau ofn! Os wyt ti wedi dy gaethiwo gan ofn, bydd yn rhydd heddiw drwy'r Gwaredwr na allai angau mo'i gaethiwo!
Ni chafodd y bedd ei hagor, ar fore'r Pasg, i adael Iesu allan, ond i adael y merched oedd am ei addoli, i mewn. Wrth i'r merched hyn, y rhai cyntaf i'w comisiynu i ddweud stori'r efengyl, redeg i ffwrdd o'r bedd, roedden nhw'n profi ofn a llawenydd mawr ill dau.
Gwna'n siŵr fod dy lawenydd yn fwy na dy ofn! Dylai bod dim yn dy fywyd yn gryfach na'i lawenydd. Y llawenydd brofodd y merched ar fore'r Pasg hwnnw achosodd iddyn nhw ddisgyn ar eu hwynebau mewn addoliad.
Dathlodd rai o'r disgyblion mewn addoliad, tra roedd eraill yn amau. Mae gan ddisgyblion yr un penderfyniad i'w wneud heddiw. Wnei di addoli neu amau?
Wnei di ddisgyn ar dy wyneb mewn addoliad neu ildio i'th ofn?
Dylai'r pŵer a'r awdurdod gyhoeddi'r gan y Pasg ein cymell i fynd a gwneud disgyblion. Unwaith mae rywun wedi dweud wrthot ti. .rhaid i ti fynd a dweud! Ewyllys Duw ar gyfer dy fywyd, ac a mywyd i, yw i wneud disgyblion yn ein byd ni personol ni.
Gwirionedd olaf yr Atgyfodiad yw ei fod gyda ti go iawn. Bydd e gyda ti ym mhob yfory
Dŷn ni wedi ein hanfon allan gyda'r dasg fwyaf mewn hanes ac wedi ein sicrhau o'r Presenoldeb Mwyaf sydd wedi byw yn y nefoedd neu ar y ddaear.
"Hosanna!"
Hawlfraint 2013 gan Carol McLeod, cedwir pob hawl. Carol McLeod yw cyd-sylfaenydd Just Joy Ministries, sydd â chenhadaeth i ysbrydoli merched o bob cefndir i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r Beibl, a thyfu mewn perthynas â'r Arglwydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.JustJoyMinistries.com.

Ysgrythur

Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r Atgyfodiad gwyrthiol, wrth i ni ddarllen drwy'r hanes gyda'n gilydd. Byddwn yn gweiddi gyda'r tyrfaoedd ar strydoedd Jerwsalem, gweiddi ar Jwdas a'r milwyr Rhufeinig, crïo gyda'r merched wrth y groes, a dathlu wrth i fore'r Pasg wawrio!

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com