Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 2 O 8

Roedd Iesu'n caru pobl. Roedd yn caru'r rhai oedd yn sal ac yn gloff. ... y puteiniaid a'r plant. Roedd Iesu'n caru ei frodyr ... y 12 oedd wedi cael trawsnewid eu bywydau drwy ddod yn rhan o'i fywyd e.
Roedd Iesu'n caru un teulu arbennig oedd wedi dathlu gydag e, ac wedi gofalu amdano tra roedd yn teithio ac oedd wedi crïo gydag e ar y diwrnod yr atgyfododd Lasarus, eu brawd, o farw'n fyw.
Yn ddealladwy, treuliodd Iesu rai o'i oriau olaf ar y ddaear gyda ffrindiau annwyl a oedd wedi dod yn deulu iddo. Roedd y munudau hyn yn annwyl iawn wrth iddo edrych yn gariadus i wynebau'r rhai y byddai eu henwau'n cael eu hysgrifennu cyn bo hir nid yn unig ar ei galon ond hefyd ar ei ddwylo.
Pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd efo'i gilydd, un noson, yn ystod wythnos olaf bywyd Iesu, daeth Mair, y ferch oedd wedi treulio gymaint o amser wrth draed Iesu, ato gydag etifedd teuluol.
Roedd Mair wedi treulio amser wrth draed Iesu mewn syndod, yn gwrando ar ei Air, treuliodd amser wrth draed Iesu'n ei awr dywyllaf, gan gredu y byddai'n cyflawni gwyrth, a nawr roedd yn rhoi hyd at eithafiaeth wrth ei draed hyfryd oedd yn mynd i fod yn diferu o waed cyn bo hir.
Torrodd Mair sêl yr alabaster a thywallt y persawr ar ei ben. Roedd cynnwys yr alabaster yn cyfateb i flwyddyn o gyflog, ond eto tywalltodd Mair ei gynnwys dros gorff ei Gwaredwr.
Bydd Iesu'n marw fel troseddwr a doedd troseddwyr ddim yn cael yr hawl cymdeithasol o gael eu heneinio â pherlysiau a phersawr ar ôl eu marwolaeth. Fe wnaeth gweithred unigol Mair arbed Iesu o farwolaeth gwaradwyddus troseddwr. Roedd y ferch yma mor llawn ymroddiad a chariad fel nad oedd yn credu bod dim un aberth yn ormod dros Iesu.
A wnei di dreulio amser twymgalon gyda Iesu yr wythnos hon? A wnei di ganiatáu i'th addoliad or-lifo i roi eithafol wrth i ti fyfyrio ar y pris y talodd e am dy fywyd?

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r Atgyfodiad gwyrthiol, wrth i ni ddarllen drwy'r hanes gyda'n gilydd. Byddwn yn gweiddi gyda'r tyrfaoedd ar strydoedd Jerwsalem, gweiddi ar Jwdas a'r milwyr Rhufeinig, crïo gyda'r merched wrth y groes, a dathlu wrth i fore'r Pasg wawrio!

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com