Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Llawenydd oedd o'i flaen: Defosiwn y PasgSampl

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

DYDD 7 O 8

Roedd y byd wedi'i orchuddio mewn tywyllwch annaturiol cynnar ar y diwrnod wnaeth Iesu farw. Doedd dim rheswm i'r hail dywynnu ar y diwrnod hwn mewn hanes. Roedd Golau'r byd wedi'i ddiffodd dros dro.
Roedd y llen yn y deml oedd yn symbolaidd wahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y lle pechadurus wedi'i rwygo'n ddau! Pan gymrodd Iesu ei anadl olaf ar y groes, roedd y llen wedi'i rhwygo'n gareiau! Fyth eto fyddai'r ddynoliaeth wedi'i gwahanu oddi wrth y Duw Sanctaidd! Rhwygodd ysbryd Iesu Grist y wal yn ddwy a chreu ffordd i ti gyffwrdd Duw.
Crynodd y ddaear pan roddodd Iesu ei ysbryd i fyny. Gwaeddodd y creigiau mewn galar pan gymrodd Gwaredwr y Byd ei anadl olaf.
Cododd bobol farw o'u beddau! Fedri di hyd yn oed amgyffred y pŵer ffrwydrodd allan o giatiau'r nefoedd y diwrnod hwnnw? Doedd dim mwy o bŵer mewn marwolaeth! Roedd Iesu wedi trechu marwolaeth am byth ac ni allai hyd yn oed beddrodau ddal y meirw yn ôl. Rhyddhawyd y cyrff hyn gan bŵer bywyd a ryddhawyd yn y nefoedd y diwrnod hwnnw!
Gwyddai'r holl ddynoliaeth fod rywbeth anferthol wedi digwydd ar y diwrnod bu Iesu farw.
Cynigodd Joseff o Arimathea ei fedd oedd erioed wedi cael ei defnyddio. Roedd y bedd mewn craig oedd wedi'i naddu o'r graig ar ochr bryn. Rhoddwyd corff Iesu Grist i orwedd yn y bedd a rholiwyd carreg drom dros geg y bedd.
Cafodd y bedd ei gwneud mor ddiogel ag oedd bosib. Seliwyd y bedd â chlai oedd yn caledu. Roedd Iesu wedi'i selio i mewn yn y bedd. Yna, gosodwyd milwyr i warchod bedd Iesu.
“Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.” Yr hyn na lwyddodd y Phariseaid i'w ddeall oedd na allai unrhyw glai ... craig ... bedd ... na milwyr rwystro Mab Duw rhag atgyfodi!
Roedd Iesu ar fin rhoi nôl y bedd oed wedi'i benthyg iddo!
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

For the Joy Set Before Him: An Easter Devotional

Doedd yr wythnos olaf ym mwyd Iesu ymhell o fod yn gyffredin. Roedd yn gyfnod o ffarwelio chwerwfelys, rhoi hael, bradychu creulon a gweddïau a ysgwydodd y nefoedd. Profa'r wythnos hon o'r Marchogaeth i Jerwsalem i'r Atgyfodiad gwyrthiol, wrth i ni ddarllen drwy'r hanes gyda'n gilydd. Byddwn yn gweiddi gyda'r tyrfaoedd ar strydoedd Jerwsalem, gweiddi ar Jwdas a'r milwyr Rhufeinig, crïo gyda'r merched wrth y groes, a dathlu wrth i fore'r Pasg wawrio!

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com