Logo YouVersion
Eicon Chwilio

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl

7 Things The Bible Says About Anxiety

DYDD 6 O 7

Mewn bywyd byddi'n cael trafferthion. Oherwydd ein natur bechadurus a chynllwynion y gelyn, mae trafferthion o'n cwmpas ymhobman. Ddylen ni ddim cael ein synnu gan ein tafferthion, mae Iesu ei hun yn dweud y byddwn yn cael trafferthion yn y byd. Pam fydde fe'n dweud hynny? Gan ei fod e'n onest ac yn ein caru. Wrth ein paratoi o flaen llaw, mae Iesu yn ein helpu i osgoi amheuaeth ac ofn ar gyfer pan fyddwn yn wynebu amserau caled.

Dangosodd Iesu i ni sut olwg sydd i ufudd-dod gostyngedig. Roedd e'n ufudd drwy bethau gymaint caletach na fydd y rhan fwyaf ohonom fyth yn ei wynebu - hyd yn oed at farwolaeth ar y groes. Nawr, mae e'n eistedd ar ddeheulaw Duw y Tad, yn eiriol ar ein rhan. Gallwn gymryd cysur o wybod fod gennym ffrind sydd yn cydymdeimlo oherwydd ein gwendidau.

Gallwn ddathlu o wybod fod pob taith anodd yn ein closio at Grist a'i deyrnas dragwyddol. Dyma yw ein gobaith: Mae Iesu Grist wedi gorchfygu pechod a marwolaeth am byth. Gallai marwolaeth ddim dal gafael ynddo, allai'r bedd mo'i ddal, allai pŵer pechod mo'i drechu, a gallai tywyllwch mo'i drechu!

Gan fod gwaith gorffenedig Crist ar y groes yn ein caniatáu i fod yn blant i Dduw, gallwn ni hefyd drechu pechod. Mae Iesu eisioes wedi trechu'r byd - ac mae hynny'n cynnwys pob sefyllfa anodd ar ddaear lawr. Nawr, gallwn edrych ymlaen i'n cartref tragwyddol gyda Iesu.

Jacob Allenwood
Datblygwr Gwe YiuVersion

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

7 Things The Bible Says About Anxiety

Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o staff YouVersion yn helpu i gymhwyso gwirioneddau o Air Duw i beth bynnag rwyt yn ei wynebu heddiw. Mae yna lun adnod i bob defosiwn dyddiol i'th helpu i rannu beth mae Duw yn ei ddweud wrthot ti.

More

Ysgrifennwyd a darparwyd y cynllun hwn gan dîm YouVersion. Dos i youversion.com am fwy o wybodaeth.