Logo YouVersion
Eicon Chwilio

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl

7 Things The Bible Says About Anxiety

DYDD 5 O 7

ti.

Mewn bywyd byddi'n wynebu lot o sefyllfaoedd anodd. Os nad wyt yn paratoi ymlaen llaw ar gyfer y gwirionedd hwn, gall pethau fod yn ingol pan fyddi'n gorfod eu hwynebu. Un ffordd i drechu pryder yw amgylchynu dy hun â'r pobl iawn - y pobl hynny fydd yn gallu dy helpu drwy'r sefyllfa. Os yw'r sialens yn ymddangos yn ormod i'w oresgyn, gall rhannu'r baich fod o help neu hyd yn oed ddatrys y broblem.

Mae Iesu yn rhoi'r heddwch hwn i ti ar lefel gwahanol. Mae e wastad gyda ti, ble bynnag a phryd bynnag rwyt ei angen. Pan fydd sialensiau yn codi yn dy fywyd, mae'n gysur i wybod fod Iesu yna i'th helpu i oroesi unrhyw rwystr. Wrth nesáu ato Ef, byddi'n dechrau profi mwy o heddwch - hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd...hyd yn oed wrth frwydro yn erbyn pryder.

Pan fyddi'n rhoi dy hyder yn yr Arglwydd, yn hytrach na thi dy hun (neu yn dy sefylfaoedd dy hun), gelli fod yn sicr fod Iesu yn cerdded law yn llaw â ti. Yn union fel mae cynyddu gwybodaeth yn dy helpu mewn prawf neu brosiect, gall tyfu yn y ffydd dy helpu i ddibynnu ar Iesu.

Does dim rhaid iti fynd drwy hyn ar dy ben dy hun. Mae Iesu yna i ti. Tyrd ato gyda'th bryderon oherwydd mae'n hidio amdanat.

Ryan Ackermann

Datblygwr IOS YouVersion

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

7 Things The Bible Says About Anxiety

Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o staff YouVersion yn helpu i gymhwyso gwirioneddau o Air Duw i beth bynnag rwyt yn ei wynebu heddiw. Mae yna lun adnod i bob defosiwn dyddiol i'th helpu i rannu beth mae Duw yn ei ddweud wrthot ti.

More

Ysgrifennwyd a darparwyd y cynllun hwn gan dîm YouVersion. Dos i youversion.com am fwy o wybodaeth.