Logo YouVersion
Eicon Chwilio

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am BryderSampl

7 Things The Bible Says About Anxiety

DYDD 2 O 7

src="https://d233bqaih2ivzn.cloudfront.net/daymedia/CACHE/images/originals/2017/08/17/ROM.15.13_NIV/f4bd3602f1f1fab6b68d9483032a4546.jpg" />

Weithiau, bydd pethau'n digwydd lle nad oes modd eu rheoli na'u rhagweld. Mae pryder yn dod o ganlyniad i dreulio amser yn gor-boeni drostyn nhw. P'un ai os wyt ti'n pryderu am ddyddiad cau neu cael dy blagio'n ddi-baid gan bryder am boen meddwl di-bwys am ddim rheswm, dwyt ti ddim ar ben dy hun. Hyd yn oed os nad wyt yn gallu ei ddychmygu mae gan Dduw - yng nghanol anrhefn llwyr - ddigon o obaith yn gorlifo - i'r rheiny sydd yn stopio i wrando ar ei lais.

Mae Rhufeiniaid 15:13 yn weddi gan yr Apostol Paul i rai Cristnogion yn Rhufain, ond os wnewch chi wrando'n ofalus gallwch glywed llais Duw yn siarad efo chi. Mae Paul yn dewis ei eiriau'n ofalus wrth iddo sôn am "Dduw Gobaith." Ddaliest ti hynny. Mae gobaith yn rhan o natur Duw. Ond dydy Paul ddim yn gofyn, yn syml, i Dduw ddileu eu pryderon. Allai Duw wneud hynny? Wrth gwrs, ond gwyddai y byddai'r Rhufeiniaid nôl yw hen ffyrdd os na fydden nhw'n newid eu ffordd o feddwl. Yn lle hynny gofynnodd Paul i Dduw eu llenwi nes eu bod yn "yn gorlifo â gobaith" oherwydd pan wyt ti'n gorlifo â gobaith does dim lle i bryder.

Er, hyd yn oed wedyn dyw pethau ddim mor syml â hynny. Gallai Duw fod wedi rhoi cyflenwad diddiwedd o lawenydd a thangnefedd iddyn nhw, gorlifo eu storfa ysbrydol, gan adael ddim lle o gwbl i bryder. Ond gwyddai Duw os na fydden nhw'n newid eu harfereion meddyliol, byddai gobaith yn cael ei lethu gan bryder. Felly, roedd eisiau un peth cyn rhyddhau gobaith y nefoedd arnyn nhw. Mae rhan nesaf y frawddeg honno'n dweud, "wrth iti ei drystio fe."

Wyt ti'n deall nawr?Trystio" yw'r allwedd i'r drws sy'n rhwystro'r llif o lawenydd a thangnefedd. Wyt ti'n trystio Duw? Nid trystio arwynebol, drwy air yn unig - ond y math o drystio sy'n dy alluogi i ollwng gafael yn beth bynnag rwyt â gafael tynn arno.

Ai bwled hud yw trystio? Na. Does yna run bwled hud sy'n galliu dileu'n gyfangwl pryder sydd wedi'i wreiddio'n feiolegol ddwfn. Ond mae Duw yn parhau'n ddibynadwy ac mae ymddiried ynddo fe yn arwain dy feddwl a'th ysbryd at iachâd. Fe yw'r Graig y gelli lynu ynddi wrtth iti barhau i frwydro gafael pryder ar dy gorff.

Mae Duw yn haeddu ein trystio dyfnaf. Pan wyt yn trystio Fe, mae e'n dy lenwi â chymaint o lawenydd a thangnefedd fel dy fod yn llythrennol orlifo â gobaith. Falle nad oes gen toi syniad sut mae hynny'n teimlo, ac falle bod hi'n anodd iawn trystio Duw. Hanfod ffydd yw camu allan a chymryd siawns pan dwyt ti ddim yn gwybod yn iawn beth fydd yn digwydd nesaf.

Wyt ti'n gallu ffeindio'r dewrder i ollwng y pethau hynny rwyt yn gafael ynddynt, a thrystio Duw heddiw?

Michael Martin
Datblygiad Gwe YouVersion

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

7 Things The Bible Says About Anxiety

Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o staff YouVersion yn helpu i gymhwyso gwirioneddau o Air Duw i beth bynnag rwyt yn ei wynebu heddiw. Mae yna lun adnod i bob defosiwn dyddiol i'th helpu i rannu beth mae Duw yn ei ddweud wrthot ti.

More

Ysgrifennwyd a darparwyd y cynllun hwn gan dîm YouVersion. Dos i youversion.com am fwy o wybodaeth.