Ymddiriedaeth, Prysurdeb a GorffwysoSampl
Gorffwyso
Fel dŷn ni wedi gweld dros y dyddiau diwethsf. ymddiried yw'r weithred syml o gydnabod nad ni sy'n gyfrifol am greu canlyniadau drwy ein gwaith - ond Duw. Unwaith dŷn ni wedi cymryd y cam allweddol hwn. mae hi'n iawn i fod yn brysur. i ddefnyddio rhoddion Duw i ni i gyflawni yr hyn y cawsom ein galw i wneud. Ond sut mae gwybod os ydyn ni'n ymddiried ac ynbrysur? Mae bod yn brysur yn hawdd i'w adnabod. Gellir ei weld ym mocs mewnol ein e-byst, ein rhestr pethau i'w gwneud, a'n meddyliau gor-lwythog. Ond sut mae adnabod os dŷn ni'n ymddiried yn Nuw, yn hytrach na ni ein hunain, i creu canlyniadau? Efallai mai'r dynodydd gorau yw, os ydyn ni a'i peidio, yn gorffwyso.
Gorffwyso yw'r hyn dŷn ni i gyd yn awchu amdano. Dydy e ddim yn cymryd fawr o amser i sylweddoli ei fod yn golygu mwy na treulio amser allan o'r swyddfa. Gyda'r llinellau rhwng gwaith a chartref yn aneglur, gall edrych yn amhosib i dorri ffwrdd yn gorfforol a meddyliol oddi wrth y galwadau hynny am gynhyrchu di-baid. Hyd yn oed pan dŷn ni gartref, dŷn ni byth a hefyd yn edrych ar e-byst, Instagram, calendrau, a.y.y.b. Dŷn ni wrthi'n ddi-baid. Dŷn ni'n aflonydd.
Sut sllwn ni ddod o hyd i'r gorffwys hwnnw dŷn ni'n awchu amdano? Mae San Awgwstin yn darparu'r ateb, "Mae ein calonnau yn aflonydd, nes eu bod yn gallu darganfod y gorffwys sydd i'w gael ynddo ti." Fe fyddwn ni'n aflonydd nes ein bod yn gallu gorffwys yn Nuw. Mae hyn yn golygu, tra dylen ni fod yn brysur, rhaid yn gyntaf ymddiried yn Nuw, sydd drwy hanes yn gyfan, wedi bod yn ffyddlon wrth ddarparu ar gyfer ei bobl. Os ydyn ni'n ymddiried yng nghymeriad Duw, ac yn stiwardio'r rhoddion mae wedi eu rhoi i ni, gallwn orffwyso gan wybod fos y canlyniadau yn ei ddwylo e, ei fod yn rheoli ac yn gweithredu er ein lles. Yng ngeiriau Solomon yn Diarhebion, pennod 16, adnod 33, "Mae'r deis yn cael ei daflu, ond mae'r canlyniad yn llaw'r Arglwydd."
O ran ymddygiad, dyma'r unig lwybr sydd ar gael ar gyfer gorffwys go iawn, yn feddyliol ac ysbrydol, ac mae'n dechrau gyda ein cyfaddefiad i gelfyddyd creadigol Duw o'r Sabath. Yn ngeiriau'r Parch Tim Keller, "Dŷn ni i feddwl am y Sabath fel gweithred o ymddiriedaeth. Cafodd y Sabath ei benodi gan Dduw i ddangos ei fod yn gweithio a gorffwyso. Mae i gadw'r Sabath yn ffordd ddisgybledig i gofio nad ti yw'r un sy'n cadw'r byd i fynd, sy'n darparu ar gyfer dy deulu,, na hyd yn oed cadw dy brojectau gwaith ar fynd."
Pam ei fod hi mor allweddol i ni gadw reolaeth dda ar y tyndra rhwng ymddiriedaeth a phrysurdeb? Oherwydd, yn y pendraw, pan dŷn ni'n dibynnu ar ein prysurdeb heb ymddiried yn Nuw, dŷn ni'n un ai'n ceisio bod fel Duw, neu'n ceisio dwyn ei glod. Mae'r ddau yn arwain at aflonyddwch. Gristion, cwyd dy galon! Dydy'r gorchmynion Beiblaidd hyn ddim yn gwrthdaro â'i gilydd. Rwyt wedi dy alw i ymddiried yn dy Dduw a gweithio'n galed. Pan fyddwn yn cofleidio'r tyndra hwn, gallwn orffwyso gan wybod ein bod mewn partneriaeth gyda'r un â'n galwodd.
Os wnes ti fwynhau'r cynllun darllen hgwn, fe wnei di fwynhau defosiwn wythnosol, fydd yn dy helpu i gysylltu'r efengyl yn ddyfnach yn dy waith. Cofrestra am ddim yna
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae'r Beibl yn gorchymyn i ni weithio'n galed, ond mae'n dweud wrthon ni hefyd mai Duw - nid ni - sy'n creu canlyniadau drwy ein gwaith. Fel bydd y cynllun pedwar diwrnod hwn yn dangos mae'n rhaid i'r Cristion proffesiynol gofleidio y tyndra rhwng "ymddiried" a "prysurdeb" fel ein bod yn dod ar draws y Sabath o orffwys go iawn.
More