Ymddiriedaeth, Prysurdeb a GorffwysoSampl
Prysurdeb
Dros y deuddydd diwethaf, dŷn ni wedi bod yn archwilio'r tyndra mae'n rhaid i ni fel Cristnogion ei gofleidio yn ein gwaith, rhwng ymddiried yn Nuw a bod yn brysur i wneud i bethau ddigwydd yn ein gwaith. Fel welon ni ddoe, gosododd Solomon yn ei le ddilyniant i arwain ein meddwl ar y pwnc hwn, gan ddechrau drwy gyflwyno ein gwaith i'r Arglwydd (Diarhebion, pennod 16, adnod 3). Yn adnod naw, o'r un bennod, mae Solomon yn ein hannog i fod yn brysur, gan ddweud, "Mae pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud, ond yr Arglwydd sy'n arwain y ffordd."
Ie, mae Duw wedi ein galw i ymddiried ynddo, ond yn ei haelioni mae e wedi rhoi'r hawl i ni feddwl a gweithredu. Unwaith dŷn ni wedi cyflwyno ein gwaith i'r Arglwydd, cawn ein galw i brysuro i'r gwaith hwnnw, "Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun" (Colosiaid, pennod 3, adnod 23).
Yn amlach na pheidio mae arna i ofn ein bod fel Cristnogion yn canolbwyntio gormod ar ymddiried neu bod yn brysur. Mae rhai Cristnogion yn defnyddio "disgwyl am yr Arglwydd" fel hawlfraint ar gyfer diogrwydd beiblaidd, tra bod eraill mor brysur mae nhw'n wael o ran corff, enaid ac emosiwn. Hyfrydwch Diarhebion, pennod 16, adnod 9 ydy ei fod yn cofleidio'n glir iawn y tyndra rhwng y ddau wirionedd yma. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni gydnabod "yr Arglwydd sy'n arwain y ffordd". ond mae'n dda hefyd fod "pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud," i gynllunio, adeiladu. creu model, datblygu, paentio, arloesi, sgwennu, hysbysebu, a gwerthu.
Ein gwaith yw un o'r prif ffyrdd dŷn ni'n caru ein cymdogion a gwasanaethu'r byd. Rhaid cofio bod gwaith yn bodoli cyn y cwymp yng Ngardd Eden. Mae gwaith, yn ei hanfod, yn beth da wedi ei gynllunio gan Dduw i amlygu ei gymeriad a chariad i eraill. Oherwydd hyn, mae ein huchelgais yn ein gwaith sy'n gwthio ein prysurdeb, yn beth da. Ond, fel y gwelwn yfory, yn niwrnod olaf y cynllun hwn, dim ond pan fydd ein prysurdeb yn cyd-deithio gyda'n ymddiriedaeth yn Nuw y cawn ni orffwys go iawn.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae'r Beibl yn gorchymyn i ni weithio'n galed, ond mae'n dweud wrthon ni hefyd mai Duw - nid ni - sy'n creu canlyniadau drwy ein gwaith. Fel bydd y cynllun pedwar diwrnod hwn yn dangos mae'n rhaid i'r Cristion proffesiynol gofleidio y tyndra rhwng "ymddiried" a "prysurdeb" fel ein bod yn dod ar draws y Sabath o orffwys go iawn.
More