Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ymddiriedaeth, Prysurdeb a GorffwysoSampl

Trust, Hustle, And Rest

DYDD 1 O 4

Ymddiriedaeth, Prysurdeb a Gorffwyso

Mae'n debyg mai "Prysurdeb" yw un o'r geiriau poblogaidd hynny mewn busnes heddiw. Mae buddsoddwyr sy'nachub y blaen" yn annog rhai sy'n mentro i weithio'n galetach tuag at gynhyrchu gwerthiannau. Mae pawb i'w gweld yn gwneud rhyw waith ychwanegol tra'n dal ati i weithio'n arferol rhwng naw a phum o'r gloch. Ond beth sydd gan y Beibl i'w ddweud am ein prysurdeb ni? Ar un llaw mae'r Beibl yn dathlu gwaith caled. Mae Colosiaid, pennod 3, adnod 23 yn dweud, "Gwnewch eich gorau glas bob amser." Ond, tra bod Cristnogion yn gallu ymuno mewn dathliad diwyllianol o weithio'n galed, rhaid i ni ymlafnio gyda'r gwirionedd Beiblaidd mai Duw, nid ein prysurdeb ni wein hunain, sy'n creu canlyniadau (Deuteronomium, pennod 8, adnod 17 i18). Fel Cristnogion, mae'n rhaid i ni gofleidio'r tyndra rhwng gwaith caled ac ymddiried yn Nuw i ddod o hyd i orffwys go iawn.

Mae Josua, pennod 6 yn darlun gwych o beth yw cofleidio'r tyndra hwn ar ei orau. Pan roedd Josua yn arwain yr Israeliaid i Wlad yr Addewid, fe ddaethon nhw ar draws rywbeth oedd yn edrych yn anorchfygol, sef dinas Jericho. Fel sydd wedi'i gofnodi yn Josua, pennod 6, adnod 2, "A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Josua, 'Dw i'n mynd i roi dinas Jericho i ti'." ond yn lle rhoi cryfder ac ystwythder goruwchddynol i Josua a'r Israeliaid, mynnodd Duw eu bod yn rhoi ymddiriedaeth anghymarol ynddo fe. Rhoddodd Dduw gyfarwyddyd i Josua arwain ei bobl ar orymdaith saith niwrnod o gwmpas Jericho, gan orffen gyda bloeddiadau byddarol i gyfeiriad waliau'r ddinas.

Fel cymaint o weithiau o'r blaen mewn hanes, dewisodd Dduw i ddefnyddio "pethau gwirion y byd i gywilyddio'r doeth." Yn hytrach na gadael Josua a'r Israeliaid i ennill y frwydr drwy eu nerth eu hunain, gosododd Dduw gynllun yn ei le i sicrhau mai fe yn unig fyddai'n cael y clod. Cyn rhoi buddugoliaeth i'r Israeliaid, gofynnodd Duw iddyn nhw ymddiried y byddai fe yn darparu. Heb feddwl ddwywaith, dyna'n union wnaeth Josua, Ymddiriedodd yr Israeliaid yng nghynllun Duw. Yna aethon nhw ati'n brysur i orymdeithio, chwythu eu cyrn hwrdd, a gweiddi, nes bod waliau Jericho wedi dymchwel.

Wrth gwrs, nid gorymdeithio, bloeddiadau a phrysurdeb yr Israeliaid achosodd i waliau Jericho ddymchwel. Duw wnaeth hyn. A dw i'n meddwl mai dyna'n union roedd Duw eisiau i'r Israeliaid ei weld. Mae ein gwaith caled ni yn beth da! Ond byddai credu mai ein prysurdeb ni yw beth sy'n creu canlyniadau yn ein gwaith, fel yr Israeliaid yn credu mai eu bloeddiadau nhw achosodd waliau Jericho i ddymchwel.

Fel mae Josua a'r Israeliaid yn dangos i ni, ddylen ni ddim geisio datrys y tyndra rhwng ymddiriedaeth a phrysurdeb ond ei gofleidio. Dydy'r syniadau hyn ddim yna i wrthdaro ond i fod yn briod â'ivgilydd. Ond fel mae Solomon yn rhannu yn Diarhebion, pennod 16, mae yna olyniaeth i ymddiriedaeth a phrysurdeb sy'n anrhydeddu yr Arglwydd ac yn dod â gorffwys i ni. Yr adran honno fyddwn ni'n plymio i mewn iddo dros y tridiau nesaf

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Trust, Hustle, And Rest

Mae'r Beibl yn gorchymyn i ni weithio'n galed, ond mae'n dweud wrthon ni hefyd mai Duw - nid ni - sy'n creu canlyniadau drwy ein gwaith. Fel bydd y cynllun pedwar diwrnod hwn yn dangos mae'n rhaid i'r Cristion proffesiynol gofleidio y tyndra rhwng "ymddiried" a "prysurdeb" fel ein bod yn dod ar draws y Sabath o orffwys go iawn.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.jordanraynor.com/trust/